Mêl

From Wikipedia, the free encyclopedia

Mêl
Remove ads

Hylif gludiog melys a gynhyrchir gan wenyn yw mêl. Mae lliw a blas mêl yn dibynnu ar y blodau yr ymwelodd y gwenyn â nhw yn ystod eu gwaith hel neithdar.

Thumb
Pot mêl gyda llwy fêl a sgons America
Thumb
Crwybr yn arddangos celloedd cwyr prismatig chweonglog lle mae gwenyn mêl yn storio mêl
Thumb
Gwenynen gyda'i sugnydd wedi'i hymestyn yn galycs yr eurwialen

Mae mêl yn gymysgedd o nifer o siwgrau (yn bennaf ffrwctos a glwcos) ac mae'n cynnwys fitaminau (B6 ac eraill), mwynau (calsiwm, copr, haearn, magnesiwm, manganîs, ffosfforws, potasiwm, sodiwm a sinc), rhai asidau amino ac ensymau.

Remove ads

Bwyd

Fel arfer, defnyddir mêl i goginio a phobi neu i'w ledaenu ar fara neu dost. Defnyddir mêl hefyd i roi blas ar ddiodydd fel te.

Diod feddwol wedi'i wneud o fêl yw medd. Ar un adeg ystyrid mai medd oedd y ddiod orau y gellid ei chael; sonnir yn y Gododdin mai dyna a gâi milwyr yr Hen Ogledd i'w yfed cyn mynd i'r gad.

Ymhlith y blasau mwyaf poblogaidd y mae Blodeuyn Acasia (yn bennaf o Ddwyrain Ewrop), Blodeuyn Afal a Cheirios (o Brydain) a Chneuen gastan (De Ewrop).

Gall mêl fod yn hylif neu yn hufen, gan fod crisialau siwgwr yn ffurfio ar ôl peth amser. Mae mêl crwybr, mêl â darnau o grwybr a mêl talpiau yn cynnwys darnau o grwybr cwyr sydd yn fwytadwy hefyd.

Remove ads

Meddygol

Mae rhai pobl yn meddwl fod mêl yn gwneud lles i'ch iechyd.

Nid yw'n iachusol bob tro, fodd bynnag. Gall mêl achosi afiechyd peryglus iawn (botwliaeth babanod) i blant dan ddeunaw mis oed.

Gweler hefyd

Cyswllt allanol

Ffeithiau sydyn
Ffeithiau sydyn
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads