Môl (uned)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r môl (symbol: mol), a ddefnyddir i fesur swmp y deunydd a ddefnyddir mewn arbrawf. Fe'i cyfieithwyd yn 1897 o'r gair Almaeneg "Molekulärgewicht" sy'n tarddu o'r gair "moleciwl". Y cemegydd Wilhelm Ostwald a fathodd y term yn gyntaf yn yr Almaeneg, ond roedd y syniad o uned safonol i fesur hyn-a-hyn o ddeunydd wedi cael ei ddefnyddio am o leiaf canrif cyn hynny.[1]
Mae un mol yn swmp o union 6.02214076×1023 endid elfennol (tua 602 secstiliwn neu 602 biliwn gwaith triliwn), a all fod yn atomau, moleciwlau, ïonau, parau ïon, neu ronynnau eraill. Nifer y gronynnau mewn mol yw'r rhif Avogadro felly mae'r môl yn uned ddefnyddiol wrth wneud mesuriadau cemegol cymhleth.
Mae un môl yn pwyso'r un faint (mewn gramau) â'r cyfanswm o'r rhifau más o bob atom sydd yn y rhywogaeth. Er enghraifft, mae un môl o sodiwm (Na) yn pwyso 23 gram ac un môl o ddŵr (H2O) yn pwyso 18 gram (2 x 1 am yr atomau hydrogen ac 16 am yr atom ocsigen).
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads