Madeira

un o ranbarthau ymreolaethol Portiwgal From Wikipedia, the free encyclopedia

Madeira
Remove ads

Clwstwr o ynysoedd o darddiad folcanig yng ngogledd Cefnfor Iwerydd yw Madeira. Mae'n un o ranbarthau ymreolaethol Portiwgal. Ynys Madeira yw'r brif ynys; mae'r ynysoedd eraill yn cynnwys Porto Santo i'r gogledd-ddwyrain a dau grŵp o ynysoedd anghyfannedd i'r de-ddwyrain: y Desertas a'r Selvagens. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 267,785. Y prifddinas yw Funchal a leolir ar arfordir heulog y de; mae bron i hanner y boblogaeth yn byw yn Funchal.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Mae'n nodedig am ei win (win Madeira), ac fel llecyn twristaidd, ac mae'r ynys yn cynhyrchu banana, paw paw, gellyg pigog, tomatos, siwgr câns a lemonau. Tyfir y rhain ar lethrau a dyllwyd ganrifoedd yn ôl.

Gyda'r chwaer ynys Azores, mae'n un o ddwy ranbarth ymreolaethol ym Mhortiwgal. Ceir disgrifiadau o'r ynysoedd o gyfnod y Rhufeiniaid ond nid hawliwyd yr ynys gan Bortiwgal tan 1419, a chychywynwyd ei gwladych un 1420. Dyma'r ynys gyntaf i Bortiwgal ei meddiannu, a dilynwyd hyn gan nifer o diroedd rhwng 1415 a 1542.

Mae'r gaeafau'n fwyn a'r hafau'n hir, heb fod yn rhy boeth. Daw oddeutu miliwn o ymwelwyr yma am seibiant yn flynyddol, yn benaf am ei thywydd hyfryd, ei hamrywiaeth blodau ac adar a'i golygfeydd.[1] Mae ei choedwigoedd llawryf yn hynafol ac yn cael eu gwarchod gan UNESCO, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Ni anrhaethwyd fauna a flora (planhigionac anifeiliaid) yr ynys gan yr Oes Iâ Ewropeaidd. Y prif harbwr yw Funchal, y brifddinas, sef porthladd mwyaf Portiwgal o ran cychod criws a llongau pleser eraill.[2] Madeira yw ail ranbarth mwyaf cyfoethog Portiwgal, o ran ei GDP (Cynnyrch mewnwladol crynswth) y pen, gyda Lisbon ychydig yn well na hi.[3]

Remove ads

Daearyddiaeth

Cymhariaeth gydag Ynys Môn

Rhagor o wybodaeth Ynys Madeira, Ynys Môn ...

Lleolir y clwstwr hwn o ynysoedd tua 520 km (280 mi) o arfordir Affrica a 1,000 km (540 mi) o Gyfandir Ewrop. Mae'r daith yno mewn awyren o brifddinas Portiwgal, sef Libbon yn awr a hanner.[4] Mae'n rhan o gefnen daearegol enfawr a geir gan mwyaf o dan y môr, sef "Cefnen Tore-Madeira". Mae'r gefnen hon yn gorwedd o'r gogledd-i'r-gogledd-ddwyrain i'r de-dde-orllewin, ac yn ymestyn am dros 1,000 cilometr (540 milltir).

Hinsawdd

Disgrifir hinsawdd Madeia fel Hinsawdd y Canoldir (Dosbarthiad Köppen climate: Csa/Csb).[5] Ceir cryn wahaniaeth rhwng hinsawdd y gogledd a'r de, fel a geir rhwng hinsawdd yr ynysoedd hefyd. Mae'n amrywio rhwng mynyddoedd hinsawdd gwlyb a llaith (drwy'r flwyddyn) a diffeithdir sych, cras ynysoedd y Salvagen. Mae dylanwad Llif y Gwlff ar yr hoinsawdd yn drwm a gan gerrynt y Caneri, sy'n caniatau tymheredd mwynach; yn ôl Instituto de Meteorologia, tymheredd blynyddol, cyfartalog Funchal yw 19.6 °C (67.3 °F) am 1980–2010. Rhwng 1960–1990 cododd y tymheredd ar arfordir y de dros 20 °C (68 °F) mewn cyfartaledde. Ar lethrau uchaf Madeira ceir dros 50 modfedd o law y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf yn disgyn rhwng Hydref ac Ebrill.

Remove ads

Enwogion

  • José Vicente de Freitas (1869-1952), Prif Weinidog Portiwgal 1928-1929
  • Cristiano Ronaldo (g. 1985), chwaraewr pêl-droed

Llifogydd Madeira 2010

Lladdwyd 43 o bobl yn y llifogydd ym Madeira ar 20 Chwefror 2010.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads