Madog ap Selyf
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Madog ap Selyf (fl. cyn 1282) yn llenor o Gymru yn yr iaith Ladin a chyfieithydd o'r iaith honno i'r Gymraeg. Fe'i cysylltir ag ardal Ceredigion.
Bywgraffiad
Ychydig iawn sy'n hysbys amdano. Tybir ei fod yn ŵr eglwysig yn Abaty Ystrad Fflur, ond nid oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gysylltiedig â Llanbadarn.[1]
Cyfieithodd o leiaf ddau destun Lladin i'r Gymraeg rywbryd yn drydydd chwarter y 13g. Un ohonynt yw trosiad Cymraeg o'r Turpini Historia, sy'n adrodd rhan o hanes Siarlymaen, dan y teitl Cronicl Turpin. Mae'r testun i'w cael yn Llyfr Gwyn Rhydderch. Dyma a geir mewn coloffon i'r dudalen gyntaf:
- A'r llyuyr hwnn a ymchoeles (cyfieithodd) Madawc ap Selyf o Ladin yg Kymraeg, o addolwyn a deisyf Grufud vab Maredud ab Owein ab Grufud ab Rys.[1]
Ar ofyniad Gruffudd ap Maredudd ab Owain, un o ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, y gwnaeth Madog y gwaith, felly. Rydymm yn gwybod ei fod wedi trosi testun arall o'r Lladin i Gymraeg yn ogystal. Cyfieithiad o'r testun crefyddol poblogaidd Transitus Mariae yw hynny. Unwaith eto mae'r testun yn y Llyfr Gwyn.[1]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads