Mae Jemison
gofodwraig a meddyg o'r Unol Daleithiau From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gofodwraig a meddyg o'r Unol Daleithiau yw Mae Carol Jemison (ganwyd 17 Hydref 1956). Hi oedd yr ofodwraig Americanaidd ddu gyntaf.
Ganwyd yn Decatur, Alabama, a symudodd gyda'i theulu i Chicago yn 3 oed. Graddiodd o'r uwchysgol yn 16 oed ac enillodd raddau mewn peirianneg gemegol ac astudiaethau Affricanaidd-Americanaidd o Brifysgol Stanford. Astudiodd meddygaeth ym Mhrifysgol Cornell a bu'n teithio i Wlad Tai i wirfoddoli mewn gwersyll ar gyfer ffoaduriaid o Gambodia, ac i astudio yng Nghenia. Graddiodd o'r ysgol feddygol ym 1981, a gweithiodd am gyfnod fel meddyg yn Los Angeles. Ymunodd â'r Corfflu Heddwch fel swyddog meddygol yng Ngorllewin Affrica, ac yno gweithiodd ar sawl prosiect ymchwil gan gynnwys datblygu brechlyn ar gyfer hepatitis B.[1]

Dychwelodd Jemison i'w gwaith meddygol yn Los Angeles tra'n parhau a'i hastudiaethau peirianneg. Penderfynodd ymuno â NASA, a hi oedd un o'r 15 o ofodwyr dan hyfforddiant a gawsant eu dewis allan o 2,000 o ymgeiswyr.[2] Cafodd ei hyfforddi'n berwyl-arbenigwraig (mission specialist) a gweithiodd yng Nghanolfan Ofod Kennedy yn Cape Canaveral wrth wirio meddalwedd y wennol ofod a'i phrosesu ar gyfer ei lansio. Gweithiodd ar y berwyl ofod gyntaf rhwng yr Unol Daleithiau a Japan, STS-47 Spacelab J. Aeth Jemison ar ei thro cyntaf i'r gofod ym Medi 1992 ar y wennol Endeavour. Treuliodd mwy nag wythnos mewn orbit o amgylch y Ddaear.[1]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads