Manon Rhys
sgriptiwr a aned yn 1948 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Llenor yw Manon Rhys (ganwyd 26 Ebrill 1948) sydd yn olygydd, yn sgriptwraig deledu, ac yn awdures nofelau Cymraeg. Ganed hi yn Nhrealaw, Y Rhondda, yn ferch i'r athro, y bardd, a'r dramodydd J. Kitchener Davies.
Remove ads
Bywgraffiad
Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci, rhwng 1952 a 1959 cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd y teulu i Brestatyn ym 1961 a mynychodd Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl, hyd 1966, wedi i'w mam, Mair Davies, dderbyn swydd Pennaeth Adran y Gymraeg yn yr un ysgol. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth cyn dilyn cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis Pobol y Cwm a chyfres Y Palmant Aur (a addasodd yn ddiweddarach fel tair nofel). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Bu'n gydolygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin. Mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.
Mae'n briod â T. James Jones; mae ganddi ddau o blant, ac mae'n llysfam i ddau. Mae'n fam-gu i saith o wyrion.[1]
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2011 gyda Neb Ond Ni; hi oedd yr enillydd cyntaf y cyflwynwyd iddo'r fedal gan ei briod.
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015.[2]
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Cwtsho: Straeon Byrion (Gwasg Gomer, 1988)
- Ar fy Myw (gol.) (Honno, 1990)
- O Na Byddai'n Haf o Hyd (addasiad o Goodbye Summer gan Alison Prince) (Gwasg Gomer, 1990)
- Cysgodion (1993)
- Tridiau, ac Angladd Cocrotshen (Gwasg Gomer, 1996)
- Y Palmant Aur 1: Siglo'r Crud (Gwasg Gomer, 1998)
- Y Palmant Aur 2: Rhannu'r Gwely (Gwasg Gomer, 1999)
- Y Palmant Aur 3: Cwilt Rhacs (1999)
- Storïau'r Troad (gol.) (Gwasg Gomer, 2000)
- James Kitchener Davies: Detholiad o’i Waith (gol. ar y cyd ag M. Wynn Thomas) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
- Rara Avis (Gwasg Gomer, 2005)
- Cerddi'r Cymoedd (gol.) (Gwasg Gomer, 2005)
- Cornel Aur (Gwasg Gomer, 2009)
- Neb Ond Ni (Gwasg Gomer, 2011)
- Ad astra (Gwasg Gomer, 2013)
- Stafell fy Haul (Cyhoeddiadau Barddas, 2018)
Remove ads
Gwobrau ac anrhydeddau
- 2011 – Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 – Neb Ond Ni
- 2015 – Y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads