Mao Zedong
gwleidydd, bardd, llenor, athronydd, athro, llyfrgellydd, damcaniaethwr gwleidyddol, chwyldroadwr a tactegydd milwrol (1893-1976) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Arweinydd y Chwyldro Tsienëaidd ac arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina oedd Mao Zedong (hefyd Mao Ze-dong neu Mao Tse Dong yn Gymraeg)[1] (Tsieineeg 毛泽东 neu 字润之 ynganiad ) (26 Rhagfyr 1893 – 9 Medi 1976).
Remove ads
Blynyddoedd cynnar
Cafodd ei eni i rieni gwerinol yng nghefn gwlad Hunan. Erbyn 1920 roedd yn proffesu Marcsiaeth a helpodd sefydlu Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn 1921. Erbyn diwedd y 1920au roedd yn arweinydd herwfilwrol yn ymladd yn erbyn y Guomindang (Plaid Genedlaethol Tsieina), oedd dan arweinyddiaeth Chiang Kai-Shek.
Yr Orymdaith Hir
Yn 1931 daeth yn gadeirydd sofiet Jianxi. Pan orfodwyd y Comiwnyddion i ffoi o Jianxi yn 1934 fe'u harweinwyd gan Mao ar yr Orymdaith Hir. Rhoddwyd pris o $250,000 ar ei ben gan y llywodraeth. Pan gyrhaeddodd Yan'an yn 1935 roedd yn cael ei gydnabod fel un o arweinyddion pennaf y Blaid Gomiwnyddol.
Y Rhyfel Gwladgarol Mawr
Ar ôl i'r blaid honno ymuno â'i hen elynion y Guomindang i ymladd yn erbyn lluoedd Siapan yn ystod Rhyfel Tsiena a Siapan (1937 - 1945), a elwir weithiau "Y Rhyfel Gwladgarol Mawr", a gorchfygu'r goresgynwyr, ail-gychwynodd y rhyfel cartref. Dan arweinyddiaeth Mao ac eraill gorchfygwyd y Guomindang a ffoasant i Daiwan i ffurfio llywodraeth mewn alltudiaeth ar yr ynys honno.
Cyhoeddi Gweriniaeth Pobl Tsieina
Yn 1949 cyhoeddodd Mao, a oedd erbyn hynny'n Gadeirydd y Blaid Gomiwnyddol, Weriniaeth Pobl Tsieina. Roedd ysgrifau gwleidyddol Mao yn cael eu derbyn fel sylfaen athronyddol y wladwriaeth newydd a'i llywodraeth gomiwnyddol ac ar eu sail sefydlwyd comiwnau a'r Naid Fawr Ymlaen.
Y Chwyldro Diwylliannol
Ymddiswyddodd Mao fel cadeirydd swyddogol y blaid yn 1958, ond mewn gwirionedd bu iddo gadw llawer o rym. Daeth yn ffigwr canolog yn y Chwyldro Diwylliannol yn ystod y 1960au pan welid ei lun a'i Lyfr Coch Bach ymhob man.
Yr olyniaeth
Pan fu farw yn 1976 ceisiodd ei drydedd wraig Jiang Qing ("Madam Mao") a'i chefnogwyr gymryd drosodd y blaid a'r wlad ond roeddent yn aflwyddiannus a chymerodd Hua Guo Feng le Mao fel arweinydd.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads