Mathafarn

ystad a thŷ ger Llanwrin, Powys From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Ystad a thŷ ger Llanwrin ym Mhowys ydy Mathafarn. Mae'r tŷ erbyn hyn yn llety gwely a brecwast, gyda phedair seren. Mae fferm Mathafarn ar wahân, ac yn dal i gael ei weithio hyd heddiw.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Y bardd ac uchelwr Dafydd Llwyd o Fathafarn oedd berchen Bathafarn yn 1485, pan arhosodd Harri Tudur, Iarll Richmond (a ddaeth yn Harri VII, brenin Lloegr), yno y noson cyn Brwydr Bosworth. Cofnoda Hugh ap Evan o Fathafarn (1530-1589), a llinach teulu Pugh, a oedd yn Stiwardiaid ac yn ddiweddarach yn Arglwyddi'r Faenor.[1]

Ganwyd Rowland Pugh yn Mathafarn yn 1597, yn fab hynaf Richard ap John ap Hugh. Roedd yn aelod seneddol Ceredigion yn 1624 a Stiward Cyfeiliog yn 1625, Uchel Siryf Sir Drefaldwyn yn 1626, Uchel Siryf Sir Feirionnydd yn 1631, ac Uchel Siryf Ceredigion yn 1631.[1]

Llosgwyd y tŷ ar 29 Tachwedd 1644 gan y fyddin seneddol, oherwydd ffyddlondeb Rowland Pugh i'r goron, yn ystod brwydr yn y Rhyfel Cartref a ddigwyddodd ger Pont Dyfi rhwng Oliver Cromwell a'r Brenhinwyr.[1] Dyrchafwyd ei fab, John Pugh, yn Arglwydd Cyfeiliog yn 1664 i gydnabod ei wasanaeth ef a'i dad i'r goron.[1]

Fe briododd Maria Pugh, wyres Rowland Pugh, Thomas Pryse o Gogerddan. Eu mab hwy oedd John Pugh Pryce aelod seneddol Meirionnydd.[2] Bu farw Pugh Pryce yn ddibriod ac fe werthwyd yr ystâd. Fe'i prynwyd gan Frances, mam Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig, ar ei ran yn 1752. Fel hyn daeth yr ystâd yn rhan o Ystad Wynnstay.[1][3]

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads