Mathemategydd

person efo llawer o gwybodaeth am mathemateg From Wikipedia, the free encyclopedia

Mathemategydd
Remove ads

Arbenigwr ym maes Mathemateg yw mathemategydd, ac sy'n astudio rhif, data, modelau, strwythur, gofod, newid (Calcwlws) a nifer o israniadau eraill. Yn aml mae'n datrys problemau mathemategol naill ai mewn mathemateg bur neu mathemateg gymhwysol, ar gyfer sefyllfaoedd real y byd mawr.[1][2]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Euclid gyda'i galiper; ystyrir Euclid (fl. 300 CC) yn dad geometreg; paentiad o tua 1474

Un o'r mathemategwyr cyntaf y ceir conod ohono yw Thales o Filetus (c. 624–c.546 CC) a'r ferch gyntaf oedd Hypatia o Alexandria (AD 350 - 415) a ysgrifennodd nifer o lyfrau ar fathemateg gymhwysol. Blodeuodd tad geometreg, sef Euclid o Alexandria yn 300 CC. Magwyd sawl cyfieithydd Islamaidd a drodd at fathemateg, gan gynnwys Ibn al-Haytham; un nodwedd ohonynt oedd eu bod yn aml-ddisgyblaethol, yn bolymath. Yn yr Oesoedd Canol roedd mathemategwyr Ewropeaidd yn dilyn gyrfâu eraill, gan droi at fathemateg fel diddordeb: peiriannydd oedd Niccolò Fontana Tartaglia, cyfreithiwr oedd François Viète a meddyg oedd y Cymro Robert Recorde.[3][4]

Erbyn y 17g, daeth y prifysgolion yn feithrinfeydd i syniadau newydd gyda Robert Hooke a Robert Boyle ym Mhrifysgol Rhydychen ac Isaac Newton yng Nghaergrawnt.[5]

Remove ads

Mathemategwyr o Gymru

  • Brian Hayward Bowditch g. 1961 geometreg a thopoleg; athro ym Mhrifysgol Warwick.
  • Clive W. J. Granger (ganwyd 1934), enillydd gwobr Nobel; economegydd
  • Gwilym Meirion Jenkins (1932–1982), mathemategydd
  • Yr Athro Syr Vaughan Jones, mathemategydd, ei dad yn dod o Gwm Gwendraeth; Prifysgol Vanderbilt yn Nashville; un o fathemategwyr mwya'r byd yn 2015
  • John Viriamu Jones (1856–1901), mathemategydd a ffisegydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol Caerdydd
  • Thomas Jones (1756–1807) Coleg y Drindod, Caergrawnt
  • William Jones (mathemategwr) (1675–1749), mathemategydd cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (pi)
  • John T. Lewis (1932–2004), Abertawe. Cyfrannodd tuag at y mesur cwantwm Bose–Einstein
  • William Hallowes Miller (1801–1880, Llanymddyfri), crisialegydd. Cymhwysodd fathemateg at yr astudiaeth o risialau a dyfeisio "Mynegeion Miller".
  • Richard Price (1723–1791), ystadegydd ac athronydd
  • Robert Recorde (tua 1510–1558), mathemategydd a ddyfeisiodd y symbol (=)
  • Elmer Rees (ganwyd 1941), mathemategydd
  • Bertrand Russell (1872–1970), athronydd, mathemategydd a traethodwr
  • John William Thomas (Arfonwyson) (1805–1840), mathemategydd
  • Yr Athro Emeritws Kenneth Walters (g. tua 1935), mathemategydd; Prifysgol Aberystwyth
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads