Matthew Perry

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Williamstown yn 1969 From Wikipedia, the free encyclopedia

Matthew Perry
Remove ads

Roedd Matthew Langford Perry (19 Awst 196928 Hydref 2023)[1][2] yn actor ac ysgrifennwr o'r Unol Daleithiau ac o Ganada. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Chandler Bing yng nghomedi sefyllfa teledu NBC Friends, yn ogystal â chwarae Ron Clark yn y ffilm deledu 2006 The Ron Clark Story.[3] Ynghyd â serennu yn y gyfres Studio 60 on the Sunset Strip, ymddangosodd Perry mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys Fools Rush In (1997), The Whole Nine Yards (2000), a 17 Again (2009). Yn 2010, lleisiodd Benny yn y gêm fideo 'chwarae rhan' Fallout: New Vegas.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Perry oedd cyd-grëwr, cyd-ysgrifennwr, uwch gynhyrchydd a seren y comedi sefyllfa ABC Mr. Sunshine, a redodd o Chwefror i Ebrill 2011.[4] Yn Awst 2012, dechreuodd Perry serennu fel Ryan King, cyflwynydd chwaraeon ar gomedi sefyllfa NBC, Go On. Canslwyd y gyfres ar 10 Mai 2013. Perry oedd cyd-grëwr a seren comedi sefyllfa CBS The Odd Couple, yn chwarae rôl Oscar Madison. Adnewyddwyd y rhaglen am ail gyfres ar 11 Mai, 2015.

Remove ads

Bywyd cynnar

Ganwyd Perry yn Williamstown, Massachusetts. Roedd ei fam, Suzanne Marie Morrison (gynt Langford), yn newyddiadurwraig o Ganada ac yn gyn-ysgrifenyddes y wasg i Brif Weinidog Canada Pierre Trudeau. Mae ei dad, John Bennett Perry (ganed 1941), yn actor Americanaidd a chyn-fodel. Ysgarodd rhieni Perry cyn iddo droi'n un flwydd oed, ac aeth ei fam yn ei blaen i briodi Keith Morrison, newyddiadurwr darlledu. Magwyd Perry gan ei fam yn Ottawa, Ontario, a mynychodd Ysgol Gyhoeddus Rockcliffe Park a Choleg Ashbury. Fel plentyn, roedd yn chwaraewr tenis llwyddiannus.

Remove ads

Gyrfa

Ar ôl symud o Ottawa i Los Angeles i ddilyn gyrfa actio, mynychodd Perry The Buckley School yn Sherman Oaks. Pan yn Buckley, perfformiodd Perry fel George Gibbs yn Our Town, yn ogystal ag ymddangos yn The Miracle Worker a The Sound of Music, yn derbyn canmoliaeth am ei berfformiadau. Yn ei flwyddyn olaf, cynlluniwyd cynhyrchiad o The Elephant Man gan y cyfarwyddwr Tim Hillman gyda'r syniad o gastio Perry fel John Merrick ynghyd â Vanessa Smith a seren Les Miserables y dyfodol, Lisa Capps. Tynnodd Perry yn ôl o'r cynhyrchiad ar ôl iddo gael ei gastio yn A Night in the Life of Jimmy Reardon gyda River Pheonix, yn dod â'i yrfa actio ysgol uwchradd i ben. Hefyd yn ystod ei ddyddiau yn yr ysgol uwchradd, daeth Perry yn berfformiwr comedi improv yn yr LA Connection yn Sherman Oaks. Dechreuodd Perry actio'n broffesiynol yn 18 mlwydd oed.

Wedi ymddangosiadau gwadd mewn rhaglenni teledu yng nghanol yr 1980au, ei fwriad oedd ymrestru ym Mhrifysgol De Califfornia, ond cyn iddo wneud hyn, cynigiwyd y brif rôl o Chazz Russell yn Second Chance i Perry, yn ei gynorthwyo i ddod yn fwy gweladwy ar y sîn actio. Yn wreiddiol, serennodd Perry gyda Kiel Martin pan ddarlledwyd y gyfres am y tro cyntaf yn 1987, ond ar ôl 13 o benodau, newidiwyd y fformat, gyda Second Chance yn troi'n Boys Will Be Boys, a daeth cymeriad Perry yn fwy amlwg gyda'r plot yn symud i ganolbwyntio ar anturiaethau Chazz a'i ffrindiau yn eu harddegau. Er gwaethaf y newidiadau, fe'i pharodd am ddim ond un gyfres. Ar ôl iddi orffen, arhosodd Perry yn Los Angeles yn gwneud ymddangosiad gwadd ar y rhaglen deledu Growing Pains, yn chwarae cariad Carol sy'n marw yn yr ysbyty o anafiadau wedi damwain gar.

Remove ads

Ffilmyddiaeth

Ffilmiau

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Teitl ...

Teledu

Rhagor o wybodaeth Blwyddyn, Teitl ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads