Mercher y Lludw

From Wikipedia, the free encyclopedia

Mercher y Lludw
Remove ads

Diwrnod cyntaf Tymor y Grawys ydy Dydd Mercher y Lludw, yn ôl y Calendr Cristnogol, ac yn fwy na dim: diwrnod o ympryd. Caiff ei gynnal 46 diwrnod cyn y Pasg, 40 o ddyddiau ympryd, gyda chwe Sul nad ydynt yn cael eu cyfri'n ddyddiau ympryd. Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod sy'n ei ragflaenu.

Thumb
Lludw ar dalcen Cristion Americanaidd.

Daw'r enw o'r arferiad o roi lludw ar dalcen person i ddangos ei fod yn edifarhau ac mewn galar. Daw'r traddodiad hwn o'r arferiad o sychu dail y palmwydd, a gysegrwyd ar Sul y Blodau, flwyddyn ynghynt, eu llosgi a defnyddio'u lludw i ffurfio siâp croes gan lefaru'r geiriau "Edifarhewch, a chredwch yn yr Efengyl" neu "Cofiwch mai o lwch y daethoch ac i'r llwch y dychwelwch".[1]

Yn ôl yr Efengyl yn ôl Mathew, Yr Efengyl yn ôl Marc a'r Efengyl yn ôl Mathew, treuliodd Crist 40 diwrnod yn ymprydio yn yr anialwch, fel paratoad ar gyfer ei Groeshoelio; yno cafodd ei demtio gan y Satan.[2]

Mae Mercher y Lludw yn digwydd ar dyddiau hyn yn y blynyddoedd nesaf:

  • 2016 – Chwefror 10
  • 2017 – Mawrth 1
  • 2018 – Chwefror 14
  • 2019 – Mawrth 6
  • 2020 – Chwefror 26
  • 2021 – Chwefror 17
  • 2022 – Mawrth 2
  • 2023 – Chwefror 22
Remove ads

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads