Microbrosesydd

From Wikipedia, the free encyclopedia

Microbrosesydd
Remove ads

Prosesydd cyfrifiadur yw microbrosesydd sy'n cynnwys swyddogaethau uned brosesu canolog ar un cylched gyfannol (IC),[1] neu ar y mwyaf ychydig o gylchedau gyfannol.[2] Mae'r microbrosesydd yn gylched cyfannol ddigidol amlbwrpas, a yrrir gan gloc, yn defnyddio cofrestr, sy'n derbyn data deuol fel mewnbwn, yn prosesu hynny yn ôl y cyfarwyddiadau wedi'u gadw yn ei gof, ac yn darparu canlyniadau fel allbwn. Mae microbrosesyddion yn cynnwys rhesymeg cyfuniadol a rhesymeg dilyniannol digidol. Mae microbrosesyddion yn gweithredu ar rifau a symbolau a gynrychiolir yn y system rhifo deuaidd.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Texas Instruments TMS1000
Thumb
Intel 4004
Thumb
Motorola 6800

Gwnaed gwahaniaeth sylweddol i bŵer prosesu drwy osod CPU cyfan ar un sglodyn (neu nifer fach o sglodion), gan gynyddu effeithlonrwydd. Mae proseswyr cylched gyfannol yn cael eu cynhyrchu mewn niferoedd mawr iawn drwy brosesau awtomatig, gan arwain at gost isel fesul-uned. Mae proseswyr sglodyn-sengl yn cynyddu dibynadwyedd am fod llawer llai o gysylltiadau trydanol a allai fethu. Yn gyffredinol, wrth i gynlluniau microbrosesydd wella, mae'r gost o gynhyrchu sglodion (gyda cydrannau llai o faint a adeiladwyd ar sglodion lled-ddargludyddol yr un maint) yn aros yr un fath.

Cyn bodolaeth microbrosesyddion, adeiladwyd cyfrifiaduron bach drwy ddefnyddio raciau o gylchedau bwrdd gyda llawer iawn o gylchedau cyfannol graddfa canolig a bach. Roedd microbrosesyddion yn cyfuno hyn i mewn i un neu fwy o ICau graddfa-fawr. Mae'r cynnydd parhaus mewn cymwysterau microbrosesyddion wedi disodli mathau eraill o gyfrifiaduron bron yn gyfan gwbl, gydag un neu fwy o microbrosesyddion yn cael eu defnyddio mewn popeth o'r systemau mewnblanedig lleiaf a dyfeisiau llaw i'r cyfrifiaduron prif ffrâm a'r uwchgyfrifiaduron mwyaf.

Remove ads

Cynhyrchu yng Nghymru

Datblygwyd a cynhyrchwyd y rhan fwyaf o ficrobrosesyddion cynnar gan gwmnïau Americanaidd fel Texas Instruments ac Intel yn y 1970au a datblygodd ardal Dyffryn Silicon yng ngogledd Califfornia o amgylch y cwmnïau cynnar. Erbyn y 1990au roedd y rhan fwyaf o waith cynhyrchu prosesyddion wedi symud i wledydd yn Asia, fel Taiwan, Tsieina, De Corea a Siapan.

Mae nifer o gwmnïau wedi cynhyrchu microbrosesyddion mewn ffatrioedd yng Nghymru.

Yn 1980 adeiladodd y cwmni Prydeinig Inmos ffatri yng Nghasnewydd i gynhyrchu sglodion RAM a microbrosesydd newydd oedd yn cael ei ddatblygu, y Transputer. Daeth Inmos yn rhan o gwmnïau eraill yn ddiweddarach a gwerthwyd y ffatri i International Rectifier. Gwerthwyd y ffatri i gwmni Neptune 6 yn 2017.[3]

Mae cwmni IQE yn cynhyrchu yn hen ffatri LG yng Nghasnewydd ac yn cynhyrchu cylchedau cyfannol cyfansawdd, bydd yn debyg o gael ei defnyddio mewn ffonau symudol Apple. [4]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads