Mike Phillips
chwaraewr rygbi i Gymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Chwaraewr Rygbi'r Undeb i dîm Baiona a Chymru yw William Michael "Mike" Phillips (ganed 29 Awst 1982. Mae'n chwarae fel mewnwr.
Ganed ef yng Nghaerfyrddin, a bu'n chwarae fel blaenasgellwr i dîm rygbi Caerfyrddin. Yn ddiweddarach, symudodd i safle mewnwr; yn 6 troedfedd a 3 modfedd o daldra, mae'n anarferol o fawr i fewnwr.
Bu'n chwarae i Scarlets Llanelli, gan chwarae ei gêm gyntaf iddynt pan oedd yn 20 oed. Roedd yn cystadlu yn erbyn Dwayne Peel am safle'r mewnwr yma, a symudodd i dîm Gleision Caerdydd yn 2005. Yn Chwefror 2007 cyhoeddwyd ei fod yn symud i'r Gweilch. Credid y byddai'n ail ddewis fel mewnwr yno, gan ei fod yn cystadlu â Justin Marshall am y safle, ond llwyddodd i ennill ei le yn y tîm.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2003, yn erbyn Rwmania, gan sgorio cais. Roedd yn cystadlu â Dwayne Peel am safle'r mewnwr yn nhîm Cymru, a chyfyngodd hyn ar nifer ei gapiau am gyfnod. Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2008, ef a ddewiswyd yn hytrach na Peel gan yr hyfforddwr newydd Warren Gatland, a chwaraeodd ymhob gêm pan enillwyd y Gamp Lawn.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
