Moel Fferna
mynydd (630m) yn Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Copa mwyaf gogleddol mynyddoedd Y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Moel Fferna. Saif ychydig i'r de o'r briffordd A5, i'r de-orllewin o bentref Glyndyfrdwy, ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Wrecsam; cyfeiriad grid SJ116397. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 525metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae Afon Ceiriog yn tarddu ar lechweddau deheuol Moel Fferna, lle mae Afon Ceiriog Ddu yn tarddu a llifo tua'r de. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yma, gyda chwarel Glyndyfrdwy ar lechweddau Moel Fferna yn un o chwareli pwysicaf gogledd-ddwyrain Cymru.
Remove ads
Y copa
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 630m (2067tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

