Monastir

dinas, Tunisia From Wikipedia, the free encyclopedia

Monastir
Remove ads

Mae Monastir (Arabeg: منستير , o'r gair Lladin monasterium, 'mynachlog') yn ddinas arfordirol yn Sahel Tiwnisia, a leolir ar benrhyn ar lan dde-ddywreiniol Gwlff Hammamet (20 km i'r dwyrain o Sousse a 162 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis). Yn 2004, poblogaeth yr ardal ddinesig oedd 71,546 gyda 40,000 yn byw yn y ddinas ei hun.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Ribat hynafol Monastir

Yn ddinas hynafol a ddominyddir gan ei ribat (caer-fynachlog ganoloesol), mae economi Monastir heddiw yn dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth. Maes awyr Monastir (Monastir Habib-Bourguiba), sy'n gwasanaethu Sousse yn ogystal, yw'r ail yn y wlad. Fe'i enwir ar ôl Habib Bourguiba, cyn brif weinidog y wlad, a aned yn y ddinas ac a gladdwyd yno mewn beddrod-fosg rhwysgfawr.

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads