Muammar al-Gaddafi

From Wikipedia, the free encyclopedia

Muammar al-Gaddafi
Remove ads

Arweinydd Libia oedd Muammar Mohammad Abu Minyar al-Gaddafi (7 Mehefin 194220 Hydref 2011), neu'r Milwriad Gaddafi (Arabeg : معمر القذافي, Muʿammar Al-Qaḏâfî ; ceir sawl ffurf arall ar ei enw wedi'i drawslythrennu o'r Arabeg).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Cafodd ei eni yn Sirt, Libia, yn fab i fugail tlawd. Ef oedd arweinydd de facto Libia ers 1970 yn sgîl gwrthdroi'r llywodraeth yn 1969 mewn coup d'état a ddiorseddodd y Brenin Idris. Nid oedd yn dal swydd wleidyddol fel y cyfryw, gan adael gwleidyddion eraill i fod yn arlywydd a gweinidogion swyddogol, ac mae'n cael ei adnabod fel "Tywysydd Chwyldro Mawr Gweriniaeth Boblogaidd Sosialaidd Arabaidd Fawr Libia" neu "y Brawd-dywysydd". Fel arweinydd mae Gaddafi wedi cynnig "trydydd lwybr" i'r gwledydd sy'n datblygu a'r byd Arabaidd, athroniaeth a geir yn ei lyfr adnabyddus Y Llyfr Gwyrdd.

Remove ads

Gwrthryfel 2011

Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â'r unben Gaddafi. Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw. Anerchodd y dorf sawl gwaith i geisio eu tawelu. Bu farw Gaddafi yn ei ddinas enedigol, Sirt, yn dilyn ymladd rhwng y ddwy ochr. Bu farw ei fab Moatassem Gaddafi yn y frwydr hon. Bu farw ei fab ieuaf Khamis al-Gaddafi yn 2012.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads