Namibia
gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gweriniaeth yn ne-orllewin Affrica yw Gweriniaeth Namibia neu Namibia. Mae hi ar arfordir Cefnfor Iwerydd ac mae'n ffinio ar Angola a Sambia i'r gogledd, Botswana i'r dwyrain a De Affrica i'r de. Daeth yn annibynnol o Dde Affrica yn 1990. Windhoek yw'r brifddinas.
Remove ads
Demograffeg
Iaith
Fel y rhan fwyaf o wledydd Affrica, mae Namibia yn gymysg o ran iaith, ond mae Oshiwambo yn famiaith i tua hanner y boblogaeth, pobl dduon yn gyffredinol. Afrikaans ydyw iaith y rhan fwyaf o'r bobl gwynion o dras Ewropeaidd, tua 5% o boblogaeth y wlad, ac mae tua 30,000 o siaradwyr Almaeneg hefyd. Ond collodd y ddwy iaith hyn eu statws swyddogol yn 1990 pan wnaed y Saesneg yn unig iaith swyddogol.
Crefydd
Gwlad Gristnogol ydyw Namibia yn bennaf. Yr eglwys Lutheraidd ydyw'r eglwys fwyaf, ac wedyn yr Eglwys Gatholig. Mae tua 3% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, yn enwedig llwyth y Namaqua.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads