Nicotin

From Wikipedia, the free encyclopedia

Nicotin
Remove ads

Alcaloid ydy nicotin a ganfyddir yn nheulu'r planhigyn Solanum, sydd o ran pwysau, yn 0.6 - 3.0% o dybaco.[1][2] Mae'n gweithio fel cemegolyn 'herbivore' sy'n effeithiol i ladd pryfaid; oherwydd hyn, cafodd nicotin ei ddefnyddio mewn pryfleiddiaid yn y gorffennol.[3]. Ceir gronyn bach ohono mewn planhigion eraill megis planhigyn ŵy a thomato.

Thumb
Clwb ysmygu; cyhoeddwyd y llun cyn 1859.

Mewn crynodiadau isel (ar gyfartaledd bydd sigaret yn rhyddhau tua 1 mg o nicotîn a amsugnir), gweithreda'r sylwedd fel symbylydd mewn mamaliaid a dyma yw'r prif briodwedd sy'n gwneud person yn ddibynol ar ysmygu tybaco. Yn ôl yr American Heart Association, mae dibyniaeth ar nicotîn yn un o'r dibyniaethau anoddaf i'w ildio, tra bod y nodweddion fferyllegol ac ymddygiadol yn nodi fod rhoi'r gorau i tybaco yn debyg i'r nodweddion o roi'r gorau i heroin a chocên.[4] Mae cynnwys nicotîn wedi raddol gynyddu dros y blynyddoedd, a darganfu un astudiaeth fod cynnydd blynyddol o 1.6% ar gyfartaledd rhwng y blynyddoedd 1.6% rhwng 1998 a 2005. Gwlewyd hyn ym mhrif gategorïau po math o sigarennau.[5]

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads