Noam Chomsky
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Athronydd ac ieithydd o'r Unol Daleithiau yw Avram Noam Chomsky (ganwyd 7 Rhagfyr 1928 yn Philadelphia, UDA). Roedd ei dad, William Chomsky, yn ysgolhaig Hebraeg. Treuliodd Noam gyfnod mewn cibwts. Bu farw ei wraig Carol yn 2008 yn dilyn 60 mlynedd o fywyd priodasol.
Athro Emeritws Ieithyddiaeth MIT ydyw. Cydnabyddir iddo greu damcaniaeth gramadeg cynhyrchiol, un o uchafbwyntiau ieithyddiaeth haniaethol yn yr 20g. Yn ogystal, mae ei waith wedi cael dylanwad ar seicoleg, ac ar athroniaeth iaith ac athroniaeth meddwl.
Gan gychwyn gyda'i wrthwynebiad i Ryfel Fiet Nam yn y 1960au, fe ddaeth i'r amlwg yn y cyfryngau am ei ymgyrchu gwleidyddol. Mae'n ddeallusyn allweddol i'r asgell chwith yng ngwleidyddiaeth Unol Daleithiau America. Mae'n feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau. Disgrifia'i hun yn sosialydd rhyddewyllysiol ac yn gydymdeimlwr ag anarcho-syndicaliaeth.
Remove ads
Gweler hefyd
Gweithiau
Ieithyddiaeth
- Syntactic Structures (1957)
- Current Issues in Linguistic Theory (1964)
- Aspects of the Theory of Syntax (1965)
- Cartesian Linguistics (1965)
- Language and Mind (1968)
- The Sound Pattern of English with Morris Halle (1968)
- Reflections on Language (1975)
- Lectures on Government and Binding (1981)
- The Minimalist Program (1995)
Gwleidyddiaeth
- American Power and the New Mandarins (1969)
- For Reasons of State (1973)
- Counter-Revolutionary Violence: Bloodbaths in Fact & Propaganda with Edward S. Herman (1973)
- The Political Economy of Human Rights (1979)
- Towards a New Cold War (1982)
- The Fateful Triangle (1983)
- Pirates and Emperors (1986)
- Manufacturing Consent (1988)
- Necessary Illusions (1989)
- Deterring Democracy (1991)
- Letters from Lexington (1993)
- The Prosperous Few and the Restless Many (1993)
- World Orders Old and New (1994)
- Objectivity and Liberal Scholarship (1997)
- Profit over People (1999)
- 9-11 (2001)
- Understanding Power (2002)
- Middle East Illusions (2003)
- Hegemony or Survival (2003)
- Getting Haiti Right This Time (2004)
- Imperial Ambitions (2005)
- Failed States: The Abuse of Power and the Assault on Democracy (2006)
- Interventions (2007)
- Gaza in Crisis (2010)
- Making the Future (2012)
- Occupy (2012)
- Requiem for the American Dream (2017)
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

