Tucson
dinas, Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yw Tucson yn nhalaith Arizona, yr Unol Daleithiau (UDA), sy'n ddinas sirol Pima County. Fe'i lleolir 118 milltir (188 km) i'r de-ddwyrain o Phoenix a 60 milltir (98 km) i'r gogledd o'r ffin rhwng UDA a Mecsico. Poblogaeth: 525,529 (2006) gyda 1,023,320 yn byw yn yr ardal fetropolitaidd (2008). Yn 2005, Tucson oedd y ddinas 32fed fwyaf yn yr Unol Daleithiau a'r 52fed fwyaf ardal fetropolitaidd. Hi yw'r ddinas fwyaf yn ne Arizona a'r ail fwyaf yn y dalaith gyfan. Lleolir Prifysgol Arizona yn Tucson. Mae'n gorwedd ar lannau Afon Santa Cruz.
Mae'r maesdrefi mawr yn cynnwys Oro Valley, Marana, Sahuarita, a South Tucson. Mae cymunedau cyfagos, rhai ohonynt yn rhannol yn y ddinas, yn cynnwys Casas Adobes, Catalina, Catalina Foothills, Flowing Wells, Green Valley, Tanque Verde, New Pascua, Vail a Benson.
Mae'r enw Tucson yn deillio o'r enw Sbaeneg ar y ddinas, Tucsón, a fenthycwyd o'r enw O'odham (Indiaidd) Cuk Ṣon, sy'n golygu "wrth odre'r [mynydd] du", sy'n gyfeiriad at fynydd folcanig ger llaw. Yn Arizona, cyfeirir at Tucson weithiau fel "The Old Pueblo".
Remove ads
Gefeilldrefi Tucson
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol dinas Tucson
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

