Oblast Moscfa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Moscfa (Rwseg: Моско́вская о́бласть, Moskovskaya oblast). Does dim canolfan weinyddol fel y cyfryw; lleolir y gwahanol adrannau llwyodraeth leol mewn sawl dinas, yn cynnwys Moscfa, prifddinas y wlad, yr enwir yr oblast ar ei hôl. Poblogaeth: 7,095,120 (Cyfrifiad 2010).


Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Cafodd ei sefydlu yn 1929. Mae'n ffinio gyda Oblast Tver i'r gogledd-orllewin, Oblast Yaroslavl i'r gogledd, Oblast Vladimir i'r dwyrain, Oblast Ryazan i'r de-ddwyrain, Oblast Tula i'r de, Oblast Kaluga i'r de-orllewin ac Oblast Smolensk i'r gorllewin. Yng nhanol yr oblast saif dinas ffederal Moscfa, sy'n ddeiliad ffederal ar wahân. Mae'r oblast yn gartref i nifer o ddiwydiannau yn cynnwys meteleg, puro olew, peirianeg mecanyddol, prosesu bwyd, ynni, a diwydiannau cemegol.
Remove ads
Dolenni allanol
- (Rwseg) Gwefan swyddogol yr oblast
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads