Rwseg

iaith Slafaidd Dwyreiniol sy'n frodorol i'r Rwsiaid yn Nwyrain Ewrop. From Wikipedia, the free encyclopedia

Rwseg
Remove ads

Mae Rwseg (русский язык, tr. russkij jazyk) yn iaith Slafaidd Dwyreiniol sy'n frodorol i'r Rwsiaid yn Nwyrain Ewrop. Mae'n iaith swyddogol yn Rwsia, Belarws, Casachstan, Cirgistan, yn ogystal mae e'n cael ei defnyddio'n helaeth ledled taleithiau'r Baltig, y Cawcasws a Chanolbarth Asia.[1][2] Mae Rwsieg yn perthyn i deulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae lefel uchel o gyd-ddealladwy rhwng Rwsieg, Belarwseg a Wcreineg.

Rhagor o wybodaeth russkij jazyk), Statws swyddogol ...
Thumb

Rwsieg yw iaith frodorol fwyaf a defnyddir yn Ewrop, hefyd y iaith fwyaf cyffredin Ewrasia.[3] Gyda dros 258 miliwn o siaradwyr ledled y byd, hi yw'r iaith Slafaidd a siaredir amlaf.[4] Rwsieg yw'r seithfed iaith fwyaf poblogaidd yn y byd yn ôl nifer y siaradwyr brodorol a'r wythfed iaith fwyaf yn y byd yn ôl cyfanswm siaradwyr (Ail-iaith a brodorol).[5] Mae'r iaith yn un o chwe o'r ieithoedd swyddogol y Cenhedloedd Unedig. Rwsieg hefyd yw'r ail iaith mwyaf poblogaidd ar y We, ar ôl Saesneg.[6] Cafodd yr iaith Rwsieg ddylanwad sylweddol gan Ffrangeg yn y 18fed a'r 19eg ganrif.[7]

Remove ads

Geiriau

  • Helo: здравствуйте /ˈzdrastvujtʲə/
  • Hwyl fawr: до свидания /də sviˈdanjə/
  • Os gwelwch yn dda: пожалуйста /paˈʒalustə/
  • Diolch: спасибо /spaˈsibə/
  • Noswaith dda: добрый вечер /'dobrɨj 'vʲɛʧər/

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads