Offeren
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwasanaeth Cristnogol a'i litwrgi sy'n cynnwys yr Ewcharist neu'r cymun, gweinyddiad y sacrament, neu'r ordinhad o Swper yr Arglwydd yw'r offeren[1] yn enwedig yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ond hefyd gan eglwysi a chynulleidfaoedd eraill megis yr Anglo-Gatholigion ac Anglicaniaid yr Uchel Eglwys.
Remove ads
Yr Eglwys Gatholig
Y Weddi Ewcharistaidd yw canolbwynt yr Offeren. Seilir y ffurfwasanaeth ar litwrgi hynafol sy'n dyddio'n ôl i'r oes Rufeinig. Mae'r ddefod yn cynnwys dwy ran: Litwrgi'r Gair, sy'n cynnwys darlleniadau o'r ysgrythur a'r bregeth neu homili; a Litwrgi'r Ewcharist, sy'n cynnwys yr offrymiad, gweddi'r cysegriad neu'r canon, a defod y cymun. Wrth graidd diwinyddiaeth yr Offeren mae athrawiaeth trawsylweddiad. Newidiodd yr Offeren yn sgil Ail Gyngor y Fatican (1962–65), er enghraifft rhoddwyd caniatâd i ddefnyddio ieithoedd ar wahân i'r Lladin.
Remove ads
Cerddoriaeth
- Prif: Cerddoriaeth yr offeren
Gall "offeren" hefyd gyfeirio at osodiad cerddorol o rannau o wasanaeth yr offeren.[1]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
