Offeryn chwyth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Offeryn cerdd lle mae cerddor yn defnyddio ei anadl i achosi i golofn aer ddirgrynu yw offeryn chwyth. Yn ôl dosbarthiad Hornbostel–Sachs, mae offerynnau chwyth yn perthyn i'r aeroffonau. Beth bynnag, fel arfer mae'r offerynnau chwyth yn eithrio aeroffonau sydd â chwythwr mecanyddol (fel organ neu acordion) neu sydd â chod aer (fel pibgod). Yn lle hynny, mae'r chwaraewr yn chwythu trwy ddarn ceg i mewn i diwb. Mae'r darn ceg ar y cyd â gwefusau'r chwaraewr yn creu ansawdd nodweddiadol yr offeryn; mae hyd y tiwb yn rheoli traw'r sain.
Grwpiwyd yr offerynnau chwyth yn ddau brif deulu:
- offerynnau chwythbren, lle cynhyrchir y sain gan ddirgryniad corsen (e.e. clarinét) neu gan chwythu ar draws ymyl (e.e. ffliwt)
- offerynnau pres, lle cynhyrchir y sain gan ddirgyrniad gwefusau'r chwaraewr yn erbyn darn ceg
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Anthony Baines, Musical Instruments Through the Ages (Harmondsworth: Pelican, 1961)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
