Oran
dinas, Algeria From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas ar lan y Môr Canoldir yng ngogledd-orllewin Algeria yw Oran (Arabeg: وهران, ynganer Wahran; weithiau Ouahran, Sbaeneg: Orán). Daw'r enw "Oran" o enw Twrceg sy'n golygu "caer hardd". Sefydlwyd y ddinas yn 903 gan fasnachwyr o Al-Andalus (Andalucía yn Sbaen heddiw). Dan Ymerodraeth yr Otomaniaid Oran oedd y ddinas fwyaf gorllewinol yn yr ymerodraeth honno. Yn y cyfnod pan reolwyd Algeria gan Ffrainc, o ganol y 19g hyd y 1960au, bu Oran yn préfecture département o'r un enw. Heddiw mae'n brifddinas weinyddol wilaya (talaith) Oran. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 1 miliwn o bobl, ond os cynhwysir yr ardaloedd dinesig ceir poblogaeth o tua 2 miliwn, sy'n ei gwneud y ddinas ail fwyaf yn Algeria. Mae Oran yn borthladd o bwys, ac ers y 1960au mae wedi bod yn ganolfan fasnachol, diwydiannol ac addysgol i orllewin Algeria. Efallai mai cerddoriaeth Rai yw cynnyrch diwylliannol enwocaf Oran.
- Erthygl am y ddinas yn Algeria yw hon. Gweler hefyd Oran (gwahaniaethu).
Remove ads
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan adran dwristiaeth Oran Archifwyd 2008-07-04 yn y Peiriant Wayback
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

