Owain Fychan ap Madog
tywysog Powys From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o bedwar mab Madog ap Maredudd, tywysog Teyrnas Powys, oedd Owain Fychan ap Madog (bu farw 1187).
Bywgraffiad
Ei frodyr oedd Llywelyn ap Madog (m. 1160), Gruffudd Maelor (m. 1191) ac Owain Brogyntyn. Roedd ganddo ddwy chwaer, sef Efa ferch Madog ac Elise.
Ar farwolaeth Madog ap Maredudd yn 1160, bu ymrafael ac ymgiprys am rym yn nheyrnas Powys a chafodd Owain Fychan gantref Mechain yn dreftadaeth. Nid oes ganddo le amlwg o gwbl yng nghofnodion y cyfnod ac felly mae'n anodd gwybod ei ran yng ngwleidyddiaeth gymhleth Powys ar ôl marwolaeth ei dad, Madog.
Canodd y bardd Llywelyn Fardd I gerdd dadolwch i Owain Fychan. Tybir iddi gael ei chyfansoddi yn fuan ar ôl marwolaeth Madog ap Maredudd.
Remove ads
Cyfeiriadau
- Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd I', yn Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif, gol. Kathleen Anne Bramley et al. (Caerdydd, 1994), tt. 45-59
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads