Pab Alecsander VIII
pab From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 6 Hydref 1689 hyd ei farwolaeth oedd Alecsander VIII (ganwyd Pietro Vito Ottoboni) (22 Ebrill 1610 – 1 Chwefror 1691).[1][2][3]
Roedd Alecsandr yn 79 oed pan etholwyd ef yn bab, a dim ond 16 mis oedd ei deyrnasiad. Serch hynny, roedd y cyfnod byr hwnnw yn nodedig am raddfa eang ei nepotiaeth; dosbarthodd lawer o segurswyddi i'w deulu hefyd.
Yn ogystal â chyfoethogi ei deulu ei hun, gwagiodd Alecsandr gronfeydd y Fatican er mwyn cynorthwyo ei ddinas enedigol, Fenis, yn ei rhyfel yn erbyn y Twrciaid, a phrynu llyfrau a llawysgrifau Cristin, brenhines Sweden ar gyfer Llyfrgell y Fatican. Gostyngodd faint y trethi ar Daleithiau'r Babaeth hefyd.[1]

Rhagflaenydd: Innocentius XI |
Pab 6 Hydref 1689 – 1 Chwefror 1691 |
Olynydd: Innocentius XII |
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads