Paul Robeson
actor, canwr ac actifydd gwleidyddol (1898-1976) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Canwr ac actor ffilm a theatr o'r Unol Daleithiau oedd Paul Leroy Robeson (9 Ebrill 1898 – 23 Ionawr 1976).
Remove ads
Plentyndod
Ganwyd yn Princeton, New Jersey, yn fab i weinidog a chyn-gaethwas o'r enw William Robeson a'i wraig Maria.
Prifysgol
Mynychodd Brifysgol Rutgers ac yna Ysgol y Gyfraith, Columbia lle derbyniodd radd LL.B.; chwaraeodd bêl-droed Americanaidd ar lefel uchel yn y ddau goleg.
Actio a chanu
Dechreuodd ar ei yrfa fel actor llwyfan yn 1921 yn Efrog Newydd lle bu'n byw am saith mlynedd gyda'i wraig Essie. Yn ystod y cyfnod hwn, serenodd yn y ffilm The Proud Valley, a dorrodd dir newydd o ran dangos y dyn croenddu fel ag yr oedd, yn hytrach nag fel caricature. Daeth yn enwog fel canwr caneuon gospel hefyd.
Ei berthynas â Chymru

Bu Paul Robeson yn gysylltiedig gyda glöwyr De Cymru am 40 mlynedd bron. Daeth ar eu traws yn gyntaf yn Llundain ym 1929 lle roedd nifer ohonynt yn ddiwaith ac yn canu am eu bara menyn. Fe ddilynodd eu protest a dechreuodd canu emyn-donau ysbrydol iddynt. Cyfranodd at eu hachos drwy Gronfa Gymorth y Glöwyr, ac ymwelodd â sawl tref a chwm yn Ne Cymru gan gynnwys Castell-nedd, Aberdâr, a Phont-y-clun.
Roedd Robeson yn perfformio mewn cyngerdd yng Nghaernarfon ym 1934 pan ddaeth newyddion trychineb Glofa Gresffordd. Rhodd ei dâl o'i berfformiad i'r gronfa ar gyfer teuluoedd y meirw. Ffilmiwyd The Proud Valley ym Mhont-y-pridd a Sanders of the River yn Tiger Bay, Caerdydd. Dywedodd Robeson, "it's from the miners in Wales I first understood the struggle of Negro and white together".
Yn eisteddfod y glöwyr ym Mhorthcawl, 1957, perfformiodd Robeson drwy ganu ar y ffôn o Efrog Newydd, ac ymunodd â Chôr Meibion Treorci i ganu "Hen Wlad fy Nhadau". Yn 1958 canodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958, gydag Aneurin Bevan yn ei gyflwyno. Gofynnwyd iddo os oedd am gael rodd i gofio'r eisteddfod, a gofynnodd Paul am lyfr emynau Cymraeg.
Remove ads
Hawliau dynol
Cefnogodd y gweithiwr a mynegodd ei farn ynglŷn â Rhyfel Cartref Sbaen.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cefnogodd ei wlad, a chanodd a pherfformiodd i'r milwyr ac fel Othello yn Broadway. Er hyn, ar ddiwedd y rhyfel rhoddwyd ef ar restr o bobl pro-Sofiet gan yr FBI. Brwydrai dros hawliau'r duon a chymerwyd ei basbort oddi wrtho gan Lywodraeth UDA oherwydd ei ddaliadau Comiwnyddol ac o'r herwydd lleihaodd ei incwm yn fawr.
Remove ads
Diwedd ei oes
Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Philadelphia.
Gweithiau
Ffilmiau
- The Emperor Jones (1933)
- Showboat (1936)
- Song of Freedom (1936)
- King Solomon's Mines (1937)
- The Proud Valley (1940)
Llyfrau
- Here I Stand (1958). Hunangofiant.
Gwobrau
- Gwobr Heddwch Stalin (1952)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads