Caernarfon
tref arfordirol yng Ngogledd Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Caernarfon. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw "Caer Seiont yn Arfon" neu "Caer Saint yn Arfon", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001. "Cofi" y gelwir rhywun a aned yn y dre.
Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7 km i ffwrdd.


Remove ads
Hanes
Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.
Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar ôl iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Yn 1986 gosodwyd y castell a'r muriau ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[1]
Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glyndŵr ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn Dŵr ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio.
Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28. Hefyd yn ystod y 19g, daeth Caernarfon i fod yn un o brif ganolfannau'r byd argraffu a newyddiaduraeth yng Nghymru, ac ar ei fwyaf llewyrchus drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.[2]
Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.
Remove ads
Cysylltiadau cludiant
Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis.
Sefydliadau
Y Diwydiant Teledu
Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmnïau teledu yn parhau i fod â swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmnïau canlynol yng Nghaernarfon:
Mae gan y cwmnïau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref:
Mae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen bêl-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo).
Eraill
Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd.
Hynodion
- Gwrachen gam

Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i’r Cofis. “Grachan gam” i’w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn ôl chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio’i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig.
- Pen Twtil a'r paent eto - uwch hen Gaer,
- Gwrachen Gam a'i hogo;
- Ni theimlaf ing wrth ddringo
- Esgyn i fryn yn y fro.
Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu.[3]
Remove ads
Pobl o Gaernarfon

Clybiau Chwaraeon
Mae C.P.D. Tref Caernarfon[4] yn chwarae yn y Cymru Premier. Cartre'r clwb yw'r Ofal.
Mae Clwb Rygbi Caernarfon[5] yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-dîm y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.
Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad.
Clybiau Chwaraeon Eraill:
- Clwb Hwylio Caernarfon
- Clwb Golff Caernarfon
- Clwb Nofio Caernarfon
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Remove ads
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1886
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1940 (Eisteddfod Radio)
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1943
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979
Remove ads
Gefeilldref
- Landerne, tref yn Llydaw (Landerneau yn Ffrangeg).
Gweler hefyd
- Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Gôr Meibion Caernarfon
- Arwisgiad Tywysog Cymru
- Caernarfon (etholaeth Cynulliad)
- Caernarfon (etholaeth seneddol)
- Castell Caernarfon
- C.P.D. Tref Caernarfon
- Segontium
- Gŵyl Arall
- Wici Cofi (Tudalen Wicipedia Cymdeithas Ddinesig Caernarfon)
- Cymdeithas Ddinesig Caernarfon
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads