Peredur ap Gwynedd
gitarydd o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gitarydd o Gymru yw Peredur Wyn ap Gwynedd (ganed 17 Ebrill 1975), sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae gyda'r band Awstralaidd Pendulum.
Ganed ym Mhontypŵl ac mae'n byw yn Llundain ar y hyn o bryd. Mae'n frawd i'r actores Llinor ap Gwynedd, a chwaraewr gîtar fâs y band Apollo 440, Rheinallt ap Gwynedd.[1]
Roedd hefyd yn feirniad ar raglen deledu "Waw Ffactor" yn 2005.[2] Mae wedi chwarae'r gîtar ar gyfer nifer o gerddorion adnabyddus megis Natalie Imbruglia, Norman Cook, Sophie Ellis Bextor a Mylène Farmer. Ymunodd â Pendulum yn 2006. Mae'n seiclwr brwd tebyg i'w frawd a mae'r ddau yn cyd-sylwebu ar raglenni S4C o'r Tour de France.[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
