Philosophiae Naturalis Principia Mathematica
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Llyfr mewn tair cyfrol gan Isaac Newton sy'n egluro ei ddeddfau mudiant a'i ddeddf disgyrchedd cyffredinol yw Philosophiæ Naturalis Principia Mathematica ("Egwyddorion Mathemategol Athroniaeth Naturiol"). Yn aml fe'i gelwir yn syml y Principia. Fe'i hysgrifennwyd yn Lladin ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ar 5 Gorffennaf 1687.
Ystyrir y Principia yn un o'r gweithiau pwysicaf yn hanes gwyddoniaeth ac yn rhan bwysig o'r Chwyldro Gwyddonol. Y Principia yw'r sylfaen ar gyfer adeiladu mecaneg glasurol. Ymhlith pethau eraill, mae'n esbonio deddfau mudiant planedol Johannes Kepler, a gafodd Kepler yn empirig. Wrth lunio ei ddeddfau corfforol, defnyddiodd Newton ddulliau mathemategol sydd bellach wedi'u cynnwys ym maes calcwlws.
Remove ads
Llyfryddiaeth
- I. Bernard Cohen, Introduction to Newton's Principia (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1971)
- S. Chandrasekhar, Newton's Principia for the Common Reader (Rhydychen: Clarendon Press, 1995)
Gweler hefyd
- Principia Mathematica (gan Bertrand Russell ac Alfred North Whitehead)
Dolenni allanol
- Philosophiæ Naturalis Principia Mathematica, ffacsimili yn Llyfrgell y Gyngres
- Philosophiae Naturalis Principia Mathematica, testun Lladin ar Wicidestun Lladin
- The Mathematical Principles of Natural Philosophy (1729), cyfieithiad Saesneg ar Wicidestun Saesneg
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads