Calcwlws

From Wikipedia, the free encyclopedia

Calcwlws
Remove ads

Cangen o fathemateg sy'n canolbwyntio ar derfynau, ffwythiannau, deilliadau, ac integrynnau ydyw calcwlws. Ystyr gwreiddiol y gair Lladin calculus yw 'carreg gron', a ddefnyddid i gyfrif a chyfrifo e.e. ar abacws.

Thumb
Yr Almaenwr Gottfried Wilhelm Leibniz (1646 – 1716), y mathemategydd cyntaf i nodi'n glir rheolau calcwlws.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Remove ads

Mae iddi ddwy brif gangen, sef calcwlws differol a chalcwlws integrol, sydd yn perthyn i'w gilydd o ganlyniad i theorem sylfaenol calcwlws.[1][2] Yn y bôn, yr astudiaeth o newid yw calcwlws, yn yr un modd ag y mai geometreg yn astudiaeth o siâp, ac algebra yn astudiaeth o weithredoedd mathemategol a'u defnydd wrth ddatrys hafaliadau.

Yn gyffredinol, tybir i galcwlws gael ei ddatblygu'n bennaf yn yr 17g gan Isaac Newton a Gottfried Wilhelm Leibniz.[3] Mae iddo lawer o ddibenion beunyddiol, heddiw, mewn gwyddoniaeth ac economeg.[4]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading content...
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads