Picellwr praff
gwas y neidr From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Yn Ewrop a chanol Asia, y Picellwr praff (Lladin: Libellula depressa yw un o'r gweision neidr mwyaf cyffredin.[1] I deulu'r Libellulidae mae'n perthyn. Mae'n hawdd ei adnabod oherwydd ei abdomen glas, fflat a llydan, a phedwar clwtyn o liw ar adain y gwryw.
Mae gan y gwryw a'r fenyw abdomen fflat a llydan, sy'n frown gyda chlytiau melyn i lawr yr ochrau. Mae abdomen y gwryw yn troi'n wawr o las sy'n gorchuddio'r brown ymhen amser. Hyd yr adenydd yw 70 mm.
Cynefin y L. depressa yw llynnoedd llonydd a phyllau, ble ceir digon o bryfaid i'w bwyta. Mae'n un o'r gweision neidr cyntaf i gynefino â phyllau dŵr newydd. Fe'u gwelir yn aml ymhell o ddŵr ac maent yn ymfudol.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads