Pioden

rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia

Pioden
Remove ads

Mae'r Bioden (Pica pica) yn aelod o deulu'r brain, y Corvidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop, rhan helaeth o Asia, a gogledd-orllewin Affrica. Ceir nifer o is-rywogaethau, ac mae rhai o'r farn y dylai rhai ohonynt, er enghraifft P. p. sericea o Corea, gael eu hystyried yn rhywogaethau ar wahân. Mae'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ac mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Thumb
Pica pica pica

Gellir adnabod y Bioden yn hawdd, gyda'i phlu du a gwyn a'r gynffon hir. Mae'r pen, gwddf a bron yn ddu gyda gwawr wyrdd, a'r adenydd a'r gynffon hefyd yn ddu, gyda'r gweddill o'r aderyn yn wyn. Mae yn 40–51 cm o hyd. gyda'r gynffon yn 20–30 cm o hyd. Mae'r alwad hefyd yn tynnu sylw. Yn aml gwelir nifer o'r adar yma gyda'i gilydd, er nad ydynt yn casglu'n heidiau mawr.

Gall y Bioden fwyta bron unrhyw beth, yn cynnwys anifeiliaid wedi marw ac wyau neu gywion adar eraill, ond mae hefyd yn bwyta grawn. Mae wedi manteisio ar y nifer o anifeiliaid marw ar ochrau'r ffyrdd. Adeiledir y nyth mewn coeden. Mae'r nyth yn wahanol i nythod y rhan fwyaf o deulu'r brain gan fod to arno, gyda twll i fynd i mewn ar un ochr.

Ystyrir y bioden fel un o'r anifeiliaid mwyaf deallus, gyda'i nidopaliwm (rhan o'r ymennydd) bron cymaint â bod dynol.[1]

Remove ads

Enwau lleoedd

"Pia" yw gair rhai ardaloedd am bioden (Llwynypia, er enghraifft). Yn ôl Cronfa Melville Richards yn siroedd y de mae pob enw lle yn dwyn y ffurf "pia", pob un yn gloleddfu nodwedd tir. Ar gyrion Llandudno mae "Bryn y Bia" gyda rhai Saeson am ei alw'n Magpie Hill! Cofnodir Brynybya yn (Thorne MS yn yr un gronfa) yn 1526 a dywed Gareth Pritchard[2] mai "Bryn y Bwau" oedd yr enw gwreiddiol (onid Bryn Pia heb dreiglad fyddai’n ramadegol gywir i olygu’r aderyn?), a hynny yn sgîl brwydr, o bosib' yn amser y Rhufeiniaid.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads