Polyhedron
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mewn geometreg, mae polyhedron (enw gwrywaidd; lluosog: polyhedronau) yn solid tri dimensiwn gydag arwynebau fflat, polygonal, ymylon syth a chorneli (neu 'fertigau') miniog. Daw'r gair polyhedron o'r Groeg Clasurol πολύεδρον, sef poly- (gwreiddyn: πολύς, "llawer") + -hedron (ffurf ἕδρα, "sylfaen" neu "sedd").
![]() Tetrahedron rheolaidd |
![]() Dodecahedron serog, bach |
![]() Icosidodecahedron |
![]() Cubicuboctahedron mawr |
![]() Triacontahedron rhombig |
![]() Polyhedron toroidaidd |
Mae ciwbiau a pyramidiau'n enghreifftiau o bolyhedronau amgrwn.
Remove ads
Diffiniad
Mae'r diffiniad o bolyhedron yn gwahaniaethu o gyd-destun i gyd-destun.[1] Nid oes un diffiniad perffaith sy'n ffitio'r gwahanol fathau ee y polyhydronau serog a'r polyhydronau sy'n hunan-groesi.
Y nifer o arwynebau
Gellir dosbarthu polyhedronau yn aml yn ôl nifer yr arwynebau sydd ganddynt. Mae'r system enwi yn seiliedig ar Roeg Clasurol, er enghraifft: tetrahedron (4), pentahedron (5), hecsahedron (6), triacontahedron (30) ac yn y blaen.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads