Pontyberem

pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia

Pontyberem
Remove ads

Pentref diwydiannol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Pontyberem. Fe'i lleolir yng Nghwm Gwendraeth Fawr. Mae ardal Cyngor Cymuned Pontyberem yn gartref i 2,800 o bobl ac yn cynnwys pentref Bancffosfelen, a leolir ar lethr dwyreiniol Mynydd Llangyndeyrn. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 81.28% (1961:91% :1991:80.5%) o'r boblogaeth yn meddu ar un neu fwy o sgiliau yn yr iaith Gymraeg, gyda 60.83% yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.[1]

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Ffurfiwyd plwyf newydd o'r enw Pontyberem yn 1919 yn dilyn tyfiant y diwydiant glo. Y pwll glo hynaf oedd Glynhebog a chafwyd fod y glo o'r ansawdd gorau yn y byd.[2]

Ganwyd y gantores boblogaidd, Dorothy Squires mewn gwersyll ar gyrion Pontyberem. Mae Gwenda Owen y gantores a enillodd yr Ŵyl Ban-Geltaidd i Gymru ym 1995 gyda Chân yr Ynys Werdd yn enedigol o'r pentref.

Ym Mhontyberem mae pencadlys Menter Cwm Gwendraeth, y fenter iaith gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[4]

Remove ads

Hanes

Tyfodd y pentref ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif gyda thwf y diwydiant glo yn yr ardal. Roedd pedwar prif bwll glo yn Ardal Pontyberem; Pwll glo Pontyberem a agorwyd ym 1845, Pentremawr (1889–c.1974), Glynhebog (1892–1949) a glofa’r Gwendraeth (pwll Watt).

Ym mhwll glo'r Gwendraeth yn 1852 y bu trychineb ofnadwy : bu farw 26 o ddynion a bechgyn pan orlifodd dŵr i'r pwll glo gan ladd yr holl lowyr ar y shifft nos. Oherwydd tranc y diwydiant glo ym Maes Glo De Cymru, nid oes pyllau glo glo carreg o safon uchel yn gweithredu yng Nghwm Gwendraeth erbyn hyn.

Rhwng 1909 a 1953 roedd gorsaf Pontyberem ar yr hyn a oedd wedi bod yn Rheilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth yn gwasanaethu glowyr a thrigolion y pentref a’r ardal leol.

Gwnaed y lampau diogelwch enwog Pontyberem gan John Jones (1879–1976) a oedd yn gweithio fel Prif Fecanydd Glofa yng Nglofa Pentremawr.

Mae'r enw Pontyberem yn tarddu o dri gair Cymraeg ar wahân, pont, aber yn golygu ceg afon (i'r môr), a Beran ar ôl Nant Beran yr afon sy'n llifo trwy Bontyberem.

'Er nad oedd yn amlwg ar unwaith roedd yr elfen aber yn rhan o'r enw lle hwn ar un adeg a chyfeiriodd at leoliad y bont dros yr afon Gwendraeth Fawr ychydig o dan ei chydlifiad â Nant Beran. Mae'n debyg iddo gael ei golli trwy gyfangiad aber a'r enw afon Beran. Dehonglwyd -a- aber wedyn fel yr erthygl bendant y ac mae'n debyg bod Beran wedi'i ddylanwadu gan berem, amrywiad ar burum.'

Mae pobl leol yn deall bod yr enw Pontyberem yn tarddu o gyfuniad syml o eiriau. Mae'r 'Berem' yn cyfeirio at y croniad ewynnog (fel burum) ar wyneb dŵr Nant Beran, yn enwedig ger y bont (Pont) dros y Gwendraeth Fawr.

Remove ads

Ysgolion

Chwaraeon

Pobl Nodedig

Remove ads

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...



Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni Allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads