Port Talbot

Tref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Port Talbot
Remove ads

Tref ddiwydiannol a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Port Talbot.[1][2] Saif ar lan Afon Afan ar ochr dwyreiniol Bae Abertawe. Mae Caerdydd 44.9 km i ffwrdd o Bort Talbot ac mae Llundain yn 256.1 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe, sy'n 12 km i ffwrdd.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[4]

Thumb
Gwaith dur Port Talbot
Remove ads

Hanes

Cnewyllyn y dref fodern yw'r hen dref Aberafan sydd ar ochr orllewinol Afon Afan, yn ogystal â phentrefi hynafol eraill fel Baglan a Groes. Crewyd Port Talbot ei hun ym 1840 gydag agoriad y dociau newydd ar ochr ddwyreiniol yr afon gan y teulu Talbot o Swydd Wilton a oedd yn berchen ar Abaty Margam ar y pryd. Mae'r dref fodern hefyd yn cynnwys ardaloedd Taibach, Traethmelyn, Margam a Felindre. Felly Port Talbot yw enw rhan canolog o'r dref a hefyd enw'r dref gyfan. Mae llawer yn defnyddio Aberafan fel enw Cymraeg Port Talbot er yr enw safonol yw Porth Talbot. Enw amgen yw Porth Afan.
Mae'r dref wedi bod yn enwog am ei dociau a gweithio metel, yn enwedig y gwaith dur enfawr sydd ar ochr ddwyreiniol y dref.

Remove ads

Enwogion

Gefeilldrefi Port Talbot

Rhagor o wybodaeth Gwlad, Dinas ...

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads