Portobelo

dinas borthladd a corregimiento yn Ardal Portobelo, Talaith Colón, Panama From Wikipedia, the free encyclopedia

Portobelo
Remove ads

Dinas a phorthladd yng ngogledd Panamâ yw Portobelo, hefyd Portobello. Saif yng nhalaith Colón, gerllaw Camlas Panamâ.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Thumb
Amddiffynfeydd Portobelo

Sefydlwyd y ddinas yn 1597 gan y Sbaenwr Francisco Velarde y Mercado. Datblygodd i fod yn un o borthladdoedd pwysicaf Is-deyrnas Granada Newydd. Cipiwyd Portobelo gan Henry Morgan yn 1668, a threuliodd ei wŷr 14 diwrnod yn ei hysbeilio. Yn 1739, fe;i cipiwyd gan y llynghesydd Prydeinig Edward Vernon yn ystod Rhyfel Clust Jenkins. Cipiwyd y ddinas yn ôl gan y Sbaenwyr yn fuan wedyn.

Erbyn heddiw. mae'r boblogaeth yn llai na 3,000. Cyhoeddwyd amddiffynfeydd y ddinas, gyda rhai Caer San Lorenzo gerllaw, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads