Harri Morgan

môr-herwr From Wikipedia, the free encyclopedia

Harri Morgan
Remove ads

Preifatîr a môr-leidr Cymreig oedd Syr Harri Morgan (tua 163525 Awst 1688), a adnabyddir hefyd fel Henry Morgan. Daeth yn adnabyddus drwy'r byd am ymosod yn ddidrugaredd ar y Sbaenwyr yn y Caribî.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Bywgraffiad

Mae'n debyg y ganwyd ef yn Llanrhymni, ger Caerdydd, neu ym Mhencarn, Sir Fynwy, ond gwyddem i sicrwyd fod ei deulu'n Gymry. Mab hynaf Robert Morgan yswain o Llanrhymni yn Sir Fynwy ydoedd, er bod rhai yn honni iddo ddod o'r Fenni. Mae llawer o chwedlau am ei fywyd ac mae'r ffeithiau am ei fywyd yn ansicr, ond gwyddys y bu'n fôr-leidr. Roedd awdurdodiad llywodraeth Lloegr (Letter of Marque) ganddo yn ei awdurdod i weithredu fel preifatîr ac fe'i cefnogwyd gan lywodraeth Lloegr yn ei ryfelgyrch yn erbyn Sbaen. Cyrhaeddodd ynys Barbados ym 1655 ar alldaith y danfonodd Oliver Cromwell ef arni i India'r Gorllewin. Yn Barbados, priododd Mary Elizabeth, merch ei ewythr Edward a oedd yn Is-Lywodraethwr yr ynys ar y pryd. Ni chawsant blant.[1][2]

Mae'r hanesydd a chyd-oeswr Exquemelin yn dweud ei fod e'n gaethwas (indentured servant) yn Barbados ond wrth ystyried ei gysylltiadau teuluol mae'n annhebyg iawn. Daeth Morgan i Jamaica yn 1658. Roedd e'n nai i Edward Morgan, Llywodraethwr Cyffredinol Jamaica a phriododd ei gyfnither Mary. Y fo oedd y "Captain Morgan" ac ymunodd â llynges Christopher Myngs yn 1663.

Ers 1663 bu'n hwylio ar hyd arfordir Mecsico, Cuba a Phanama - o dan gapten arall ar y dechrau ond wedyn yn gapten ei hun - ac yn ymosod a chipio trefi Sbaen. Mae'n enwog am arwain criw o fycaniriaid y Môr Caribî a dianc rhag môr-warchae Maracaibo a osodwyd gan longau rhyfel Sbaen ar ôl brwydr rhwng yr Oxford, llong ryfel o Loegr a Le Cerf Volant, preifatîr o Ffrainc ym 1669. Cipiodd ddinas Portobelo, Panama yn 1668, gyda llynges a byddin o tua 450 o filwyr, a threuliodd ei wŷr 14 diwrnod yn ysbeilio'r ddinas.

Dechreuodd ei ymgyrch enwog yn erbyn Panama, dinas cyfoethocaf India'r Gorllewin, ym 1670. Hwyliodd yno'n arwain mintai mewn 36 llong. Bu'n rhaid iddynt gerdded dros y mynyddoedd a thrwy jyngl er mwyn cyrraedd y ddinas a oedd ar arfordir y Môr Tawel, yn hytrach na'r Môr Caribî. Llwyddodd i gipio'r dref a'i llosgi, a dychwelyd ag aur, arian a gemau a channoedd o gaethweision.

Thumb
Lithograff o Henry Morgan gan artist anhysbys (1842)

Harri Morgan a Cuba

Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Cuba ac i ddal Sbaenwyr fel gwystlon o Cuba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Cuba â 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan y ddinas o Puerto Principe Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei longau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r gwystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'u trysor. Enillodd ddim ond 50,000 o ddarnau wyth. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribî wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 o ddarnau wyth.

Remove ads

Marwolaeth

Yn y cyfamser roedd Lloegr a Sbaen wedi arwyddo cytundeb heddwch ac oherwydd yr ymosodiad ar Panama fe gafodd ei arestio a'i gludo i Loegr ym 1672. Ond yno newidiodd ei ffawd eto a daeth yn Syr Harri Morgan ym 1674. Dychwelodd i Jamaica y flwyddyn ganlynol i fod yn Is-Lywodraethwr yr ynys, lle y bu farw ar 25 Awst, 1688 a'i gladdu yn Palisadoes - tref a ddiflanodd dan y môr wedi daeargryn 1692.

Wedi 1683 cyhoeddodd Alexandre Exquemelin, ei gyn lawfeddyg, ei lyfr De Americaensche Zee-Roovers (Hanes Morwyr America). Y llyfr lliwgar hwn sy wedi sicrhau ei enw a'i boblogrwydd fel môr-leidr hyd heddiw.[3]

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • Terry Breverton, The Book of Welsh Pirates and Buccaneers (2003, Glyndwr Publishing)
  • Cordingley, David (1995). Life Among the Pirates. London: Abacus. ISBN 0-349-11314-9
  • Stephen Tatly. Empire of Blue Water: Henry Morgan and the Pirates Who Rule the Caribbean Waves

Ffilm, teledu a chyfeiriadau eraill

Seilir ffilm 1935 Captain Blood, gyda Errol Flynn, ar fywyd Morgan ac roedd yn gymeriad yn y ffilmiau The Black Swan, Forever Amber, Blackbeard the Pirate, Morgan the Pirate a Pirates of Tortuga. Ceir cerddi, llyfrau, caneuon, gemau fideo a ffilmiau amdano erbyn hyn.

Yn 2006, cyflwynodd The History Channel raglen ddogfen True Caribbean Pirates, amdano.

Mae'r rym "Captain Morgan" yn cael ei werthu drwy'r byd, ac yn rhif saith ymhlith diodydd cadarn.

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads