PostFinance
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cangen ariannol Swyddfa'r Post y Swistir yw PostFinance. Fe'i sefydlwyd yn 1906 a lleolir ei bencadlys yn Berne, Y Swistir.
Mae'n cynnig sawl gwasanaeth ariannol yn cynnwys cyfrifon cynilion, trosglwyddo arian, cardiau credyd a debyd, a gwasanaethau ariannol ar-lein.
Remove ads
Helynt WikiLeaks
Ar 6 Rhagfyr 2010, rhewodd PostFinance gyfrif personol Julian Assange, sefydlwr a phrif olygydd WikiLeaks, ar "technicality". Roedd hyn yn sgîl cyhoeddi'r dogfennau "Cablegate" gan WikiLeaks a chredir gan lawer y digwyddodd hynny dan bwysau gwleidyddol gan yr Unol Daleithiau i geisio atal WikiLeaks.[1] Mewn ymateb, cafwyd ymosodiad DDoS ar wefan PostFinance gan Operation Avenge Assange gan ei thynnu i lawr dros dro.[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads