Pumlumon

mynydd yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia

Pumlumon
Remove ads

Pumlumon yw'r mynydd uchaf yng nghanolbarth Cymru, yn yr Elenydd. Ceir pum prif gopa ar y mynydd: yr uchaf yw Pen Pumlumon Fawr (752 m). Mae ochrau gogleddol y mynydd-dir yn greigiog a'r ochrau deheuol yn llwm a mawnog.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Ystyr llumon yw "simnai" neu "corn y mwg". Felly "Y Pum Simnai" yw ystyr lythrennol yr enw Pumlumon (llurguniad Seisnigaidd yw'r ffurf Plynlimon). Y pum llumon yw:

Mae'r mynydd yn gorwedd yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion gan ffurfio pwynt(au) uchaf yr ucheldir mawnog agored sy'n gorwedd rhwng Aberystwyth i'r gorllewin, Machynlleth i'r gogledd, Llanidloes i'r dwyrain a Ponterwyd i'r de. Ar lethrau dwyreiniol Pumlumon, o fewn tair milltir i'w gilydd, ceir tarddleoedd afonydd Hafren (yr afon hwyaf ym Mhrydain) a Gwy. Yng nghesail y mynydd, islaw ymyl ysgathrog gogledd Pumlumon, mae Llyn Llygad Rheidol, tarddle afon Rheidol. I'r gorllewin o'r mynydd ceir cronfa ddŵr Nant-y-moch.

Ymladdwyd Brwydr Hyddgen ger Pumlumon yn haf 1401, pan drechodd lluoedd Owain Glyndŵr lu o Saeson a Ffleminiaid. Bu ardal Pumlumon yn gadarnle i wŷr Glyn Dŵr ar gyfer ymosodiadau ar ardaloedd yn y Gororau.

Remove ads

Cerdded

Y llwybr hawsaf i gopa Pen Pumlumon Fawr yw'r hwnnw sy'n cychwyn o Eisteddfa Gurig, tua 427 m (1,400 troedfedd) i fyny ger y bwlch a ddringir gan yr A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig. Ceir llwybr arall sy'n cychwyn o Nant-y-moch. Mae ardal Pumlumon yn adnabyddus am ei thirwedd mawnog a nodweddir gan nifer o gorsydd, ffrydiau a llynnoedd bychain. Mewn niwl mae'n gallu bod yn dir twyllodrus i gerddwyr ac mae map a chwmpawd yn hanfodol.

Remove ads

Pumlumon mewn llenyddiaeth

Hedegodd y "celwyddfarwn" Münchhausen o Bumlumon i'r Unol Daleithiau yn y llyfr enwog, Anturiaethau Barwn Münchhausen gan Rudolph Erich Raspe, pennod 31.

Copaon

Thumb
Golygfa o Fanc y Garn
Thumb
Lleoliad y copaon o Aberystwyth i'r Trallwng
Rhagor o wybodaeth Rhwng Aberystwyth a'r Trallwng, Enw ...
Remove ads

Gweler hefyd

Ffynonellau

  • Terry Marsh, The Mountains of Wales (Llundain, 1985)
  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Dinbych, 1965)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads