Pythagoras
athronydd a chyfriniwr Groegaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Athronydd a mathemategwr Groegaidd enwog oedd Pythagoras (Groeg: Πυθαγόρας; 582 CC - 496 CC), a aned yn Samos.
Roedd gan Pythagoras ddiddordeb mewn seryddiaeth, cerddoriaeth (darganfu ef sut mae cynganeddion yn gweithio) ac, yn bwysicaf, mathemateg.
Mae'n fwyaf enwog am ei Theorem: fod hyd yr hypotenws mewn triongl ongl sgwâr wedi'i sgwario yn hafal i'r hydoedd y ddau ochr arall wedi'i sgwario a'i adio at ei gilydd (a²+b²=c²).
Darganfu Pythagoras hefyd na all ail isradd 2 fod yn rhif cymarebol.
Roedd gan Pythagoras nifer o ddisgyblion a oedd yn dilyn ei ddysgeidiaeth a'i gredoau. Roeddent yn casáu ffa a chredai Pythagoras iddo fod yn rhyfelwr o Gaerdroea mewn bywyd cynharach.
Remove ads
Gweler hefyd
- Geodedd: cangen o fathemateg gymhwysol
Llenyddiaeth
- D. James Jones, Hanes Athroniaeth: Y Cyfnod Groegaidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939), pennod: "Pythagoras a'i Ysgol", tt.12–18
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
