Randy Newman

sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1943 From Wikipedia, the free encyclopedia

Randy Newman
Remove ads

Canwr, cyfansoddwr caneuon, a phianydd Americanaidd yw Randall Stuart "Randy" Newman (ganwyd 28 Tachwedd 1943).[1] Cafodd ei eni yn Los Angeles a'i fagu yn New Orleans ac yna Los Angeles, ac yn y ddinas honno astudiodd cyfansoddi cerddoriaeth ym Mhrifysgol Califfornia. Mae nifer o'i ganeuon o natur ddigrif, eironig, a dychanol. Ymhlith ei ganeuon enwog mae "Short People", "I Love L.A.", "Mama Told Me Not to Come", "You Can Leave Your Hat On", ac "I Think It's Going to Rain Today". Cyfansoddodd Newman y traciau sain ar gyfer y ffilmiau Ragtime (1981), The Natural (1984), Toy Story (1995), A Bug's Life (1998), Toy Story 2 (1999), a Monsters, Inc. (2001). Cafodd Newman ei ynydu i'r Rock and Roll Hall of Fame yn 2013.[2]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...
Remove ads

Disgyddiaeth

  • Randy Newman (1968)
  • 12 Songs (1970)
  • Randy Newman Live (1971)
  • Sail Away (1972)
  • Good Old Boys (1974)
  • Little Criminals (1977)
  • Born Again (1979)
  • Trouble in Paradise (1983)
  • Land of Dreams (1988)
  • Randy Newman's Faust (1995)
  • Bad Love (1999)
  • Harps and Angels (2008)
  • Live in London (2011)

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads