Ray Reardon
chwaraewr snwcer From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Chwaraewr snwcer o Gymru oedd Ray Reardon MBE (8 Hydref 1932 – 19 Gorffennaf 2024).[1] Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r chwaraewr snwcer gorau erioed. Cafodd y llysenw 'Dracula' oherwydd steil ei wallt.
Remove ads
Bywyd cynnar
Cafodd ei eni yn Nhredegar. Cychwynodd weithio fel glöwr cyn ei fod yn bymtheg, gan ddilyn ôl-traed ei dad, Ben. Yn nghanol y 1950au, gorfodwyd y teulu i symud er mwyn chwilio am waith. Sefydlodd y teulu yn Swydd Stafford lle cafodd Ben a'i fab Ray waith ym mhwll glo Florence. Yn 1957, roedd mewn damwain pwll glo pan gwympodd traws mewn twnnel. Cymerodd hi ddeuddeg dyn i gloddio'r rwbel o'r ffordd ac roedd Ray yn sownd am dair awr cyn ei achub. Yn 1960 ymunodd Ray a'r heddlu yn Stoke-on-Trent.[2]
Remove ads
Gyrfa
Enillodd pencampwriaeth y byd chwe gwaith rhwng 1970 a 1978. Ef oedd y chwaraewr cyntaf i fod yn safle "rhif un yn y byd" pan gyflwynwyd rhestr safloedd byd yn ystod 1976-1977, a parhodd yn y safle cyntaf am bum mlynedd.[3]
Ymddeolodd o chwarae snwcer yn 1991 pan oedd yn 58 mlwydd oed. Yn ddiweddarach gweithiodd fel ymgynghorydd i chwaraewyr snwcer iau yn cynnwys Ronnie O'Sullivan.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
