Real Sociedad
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Clwb pêl-droed o ddinas Donostia (San Sebastián) yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Real Sociedad de Fútbol, a adnabyddir fel rheol fel Real Sociedad. Yn yr iaith Fasgeg, gelwir hwy yn Erreala neu'r txuri-urdin (gwyn a glas).
Sefydlwyd y clwb ar 17 Medi 1909. Eu stadiwm yw'r Estadio Anoeta, sy'n dal 32,000 o wylwyr. Mae'r clwb wedi treulio amser yn adran gyntaf La Liga ac yn yr ail adran yn ystod ei hanes; ar ddiwedd tymor 2006-2007 aeth i lawr o'r adran gyntaf i'r ail. Cawsant eu cyfnod gorau yn nechrau'r 1980au, pan enillwyd pencampwriaeth yr adran gyntaf ddwywaith yn olynol.
Ar 9 Gorffennaf 2007, apwyntiwyd y Cymro Chris Coleman yn rheolwr. Roedd hyn ar argymhelliad John Toshack, ei hun yn gyn-reolwr y clwb. Ymddiswyddodd Coleman ar 16 Ionawr 2008.
Remove ads
Y tîm presennol
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads