Retina

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Y retina (hefyd rhwyden) yw'r haen fwyaf mewnol o belen y llygad ac sy'n bilen oleusensitif amlhaenog dyner. Mae opteg y llygad yn creu delwedd o'r byd gweledol ar y retina (trwy'r cornbilen a'r lens), sy'n gweithio mewn ffordd nid annhebyg i ffilm mewn camera.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

Mae'r golau sy'n taro'r retina yn creu rhaeadr o ddigwyddiadau cemegol a thrydanol sydd yn y pen draw yn achosi cynhyrfiadau nerfol. Mae rhain yn cael eu hanfon i wahanol ganolfannau gweledol yn yr ymenydd drwy ffibrau'r nerf optig. Mae'r retina nerfol fel arfer yn cyfeirio at dair haen o gelloedd nerfol (ffotodderbynyddion [rhodenni a chonau], celloedd deubegwn a chelloedd ganglion) o fewn i'r retina, tra fod y retina cyfan yn cyfeirio at yr haenau hyn ynghyd â haen o gelloedd epithelaidd pigmentog.[1]

Remove ads

Delweddau ychwanegol

Cyfeiriadau

Darllen pellach

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads