Richard Harrington
actor ac actor teledu (1975- ) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor o Gymro yw Richard Harrington (ganed 12 Mawrth 1975). Mae'n adnabyddus am chwarae prif rannau yn Pen Talar, Y Gwyll, Bleak House a Poldark.
Bywgraffiad
Ganwyd Harrington yn Gurnos a magwyd yn Dowlais, Merthyr Tudful.[1] Cafodd Harrington rannau blaenllaw yn y cyfresi teledu Bleak House, Gunpowder, Treason & Plot gan Jimmy McGovern a ffilm gomedi The All Together gan Gavin Claxton. Mae e hefyd wedi cael rhannau ar Coronation Street, Spooks, Casualty, Holby City, Hustle, Daziel and Pascoe, Silent Witness a Lark Rise to Candleford. Enillodd Wobr BAFTA Cymru am ei bortread o butain hoyw ifanc yn y ffilm Dafydd.
O ran ei berfformiadau llwyfan, teithiodd ledled y wlad gyda chynhyrchiad Fiction Factory/ Y Cwmni o ddramâu Ed Thomas House of America, Gas Station Angel a Stone City Blue.
Mae Harrington yn siarad Cymraeg fel ail iaith. Fe siaradodd Gymraeg drwy gydol ffilmio y gyfres ddrama dditectif a Y Gwyll, lle roedd yn chwarae'r prif ran fel ditectif. Fe ddywedodd fod y saith mis yn ffilmio Y Gwyll wedi ei wneud yn fwy rhugl o lawer.[2]
Fe gymerodd rhan yn Marathon Eryri 2012 a 2013 gyda'i ffrind a chyd-actor Mark Lewis Jones.[3]
Remove ads
Bywyd personol
Mae gan Harrington ddau fab gyda'i bartner Hannah Daniel[4] a dau fab gyda'i gyn-bartner Nerys Phillips[5].
Ffilmyddiaeth
Theatre
- House of America - Boyo Fiction Factory)
- Gas Station Angel Royal Court
- Stone City Blue Theatre Clwyd
- Art and Guff Soho Theatre
- Other Hands Soho Theatre
- Look Back in Anger Theatre Royal, Bath
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads