Ricky Valance
Canwr o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Canwr o Gymru oedd Ricky Valance (10 Ebrill 1936 – 12 Mehefin 2020).[1][2] Roedd yn fwyaf enwog am ei sengl aeth i rif un yn y siartiau gyda'r gân "Tell Laura I Love Her", a werthodd dros filiwn o gopïau yn 1960.[3]
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd David Spencer yn Ynys-ddu ger Wattsville, Sir Fynwy (Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach), yr hynaf o saith plentyn.[3] Ymunodd a'r RAF pan oedd yn 17.[3]
Dechreuodd ei yrfa gerddorol pan adawodd y lluoedd arfog.[3] Dechreuodd berfformio mewn clybiau lleol am gwpl o flynyddoedd cyn iddo gael ei ddarganfod gan gynrychiolydd A&R o EMI, a fe'i rhoddwyd gyda'r cynhyrchydd recordiau Norrie Paramor a fe'i harwyddwyd i label Columba ar EMI.[4]
Remove ads
Gyrfa
Erbyn 1960 roedd yn defnyddio'r enw Ricky Valance. Roedd wedi penderfynu ar yr enw cyntaf, a gwelodd hyfforddwr ceffylau ar y teledu o'r enw Colonel Valance.[5]
Yn y sesiwn recordio cyntaf, cafodd Valance gyfle i recordio'r gân boblogaidd Americanaidd, Tell Laura I Love Her".[4] Aeth i frig y siartiau yn Medi 1960, drwy gael ei chwarae yn gyson ar Radio Luxembourg.[4][6]
Fe roedd y BBC yn gwrthod chwarae caneuon trychineb arddegau fel Tell Laura I Love Her. Ni chafodd llawer o recordiau Americanaidd tebyg ei ryddhau o gwbl yn Y Deyrnas Unedig.[7]
Rhif un yn y siartiau
Ni chafodd fersiwn wreiddiol Ray Peterson o "Tell Laura I Love Her", a chyd-ysgrifennwyd gyda Jeff Barry, ei ryddhau yn Y Deyrnas Unedig, oherwydd bod Recordiau Decca yn teimlo ei fod yn ddi-chwaeth.[7] Yn dilyn hyn trefnodd EMI i Valance recordio'r gân.[3] Ac felly y daeth Valance i fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i gyrraedd y brig - gan mai Shirley Bassey oedd y Gymraes gyntaf.
Ar ôl mynd i frig Siart Senglau y DU, fe ymddangosodd Valance ar gystadleuaeth A Song For Europe 1961, gan obeithio cynrychioli gwledydd Prydain yng Nghystadleuaeth Eurovision. Daeth ei gân, "Why Can't We?", yn drydydd allan o naw cynnig; a'r enillydd oedd "Are You Sure?" berfformiwyd gan the Allisons.
Fe ryddhawyd senglau pellach yn cynnwys "Movin' Away", "Jimmy's Girl" a "Six Boys".[3] Gwerthwyd dros 100,000 copi o "Jimmy´s Girl", ac fe aeth "Moving Away" i rif un yn Awstralia a Scandinavia, gan werthu dros 150,000 o gopïau. Am nad oedd yn gallu atgynhyrchu ei lwyddiant cychwynnol yn siart y DU, mae'n aros felly yn seren wîb.
Gyrfa hwyrach
Yn 2001, recordiodd albwm One of the Best yn Nashville, Tennessee.
Daeth nôl i wledydd Prydain yn 2015 ac roedd yn gobeithio ail-gysylltu gyda'i wreiddiau Cymreig gan ystyried trefnu taith o gwmpas Cymru.[8] Mewn cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2015, derbyniodd wobr am fod y Cymro gwrywaidd cyntaf i cael Rhif Un yn y siartiau a canodd yno ar y noson.
Yn 2017 ryddhaodd ei gân olaf cyn ymddeol. Cyhoeddwyd "Welcome Home" i godi arian at Gymdeithas yr RAF ac Amgueddfa yr RAF.[5]
Remove ads
Bywyd personol
Aeth Valance i fyw yn Cabo Roig ar gyrion Torrevieja, y Costa Blanca yn Sbaen, lle roedd yn dal i berfformio yn rheolaidd. Roedd ganddo dy hefyd ym Mlaenau Gwent yng Nghymru. Cafodd drawiad ar y galon yn y 2015.
Erbyn 2017 roedd yn byw gyda'i wraig yn Skegness.[5]
Bu farw ar 12 Mehefin 2020. Roedd yn 84 mlwydd oed, ac wedi bod yn yr ysbyty gyda dementia yn y misoedd cyn ei farwolaeth. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Santes Fair yn Goldington, Bedfordshire ar 13 Gorffennaf 2020.[9][10]
Disgyddiaeth
Senglau DU
Columbia
- DB4493 - "Tell Laura I Love Her" / "Once Upon a Time" (1960)
- DB4543 - "Movin' Away" / "Lipstick on Your Lips" (1960)
- DB4586 - "Jimmy's Girl" / "Only the Young" (1961)
- DB4592 - "Why Can't We" / "Fisherboy" (1961)
- DB4680 - "Bobby" / "I Want to Fall in Love" (1961)
- DB4725 - "I Never Had a Chance" / "It's Not True" (1961)
- DB4787 - "Try to Forget Her" / "At Times Like These" (1962)
- DB4864 - "Don't Play No.9" / "Till the Final Curtain Falls" (1962)
Decca
- F12129 - "Six Boys" / "A Face in the Crowd" (1965)
Crystal
- CR7004 - "Abigail" / "My Summer Love" (1969) (as Jason Merryweather)
Tank
- BSS313 - "Hello Mary Lou" / "Walking in the Sunshine" (1978)
Umbrella
- UMO111 - "Daddy's Little Girl" / "Ticket to Dream" (1988)
One Media iP
- "Welcome Home" / "Tell Laura I Love Her" (55th Anniversary Edition) (2016)[11]
Albymau DU
His Master's Voice
- CLP1497 - The Two Sides of John Leyton (1961)
- CLP1664 - Always Yours (1963)
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads