Rob Howley

From Wikipedia, the free encyclopedia

Rob Howley
Remove ads

Hyfforddwr a chyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb yw Robert Howley (ganed 13 Hydref 1970). Roedd yn hyfforddwr ymosodol i Dîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru rhwng Rhagfyr 2023 a Chwefror 2025.[1][2]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Ganed ef ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bu'n chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr, Clwb Rygbi Caerdydd a Wasps. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1996 yn erbyn Lloegr. Enillodd 59 cap dros Gymru fel mewnwr, 22 ohonynt fel capten. Chwaraeodd mewn pedair gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 1999.

Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 1997, ond cafodd ei anafu. Aeth ar daith i Awstralia gyda'r Llewod yn 2001, a chwaraeodd mewn dwy gêm brawf cyn cael ei anafu eto. Ymddeolodd fel chwaraewr yn 2004.

  1. "Rob Howley yn dychwelyd i dîm hyfforddi Warren Gatland". BBC Cymru Fyw. 2023-12-14. Cyrchwyd 2025-02-13.
  2. "Rob Howley yn gadael ei rôl gyda thîm hyfforddi Cymru". BBC Cymru Fyw. 2025-02-13. Cyrchwyd 2025-02-13.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads