Robert Fitz-Stephen

un o goncwerwyr Iwerddon From Wikipedia, the free encyclopedia

Robert Fitz-Stephen
Remove ads

Arglwydd Normanaidd Cymreig oedd Robert Fitz-Stephen (fl. tua 1150). Roedd yn fab i Nest ferch Rhys ap Tewdwr a Stephen, cwnstabl castell Aberteifi.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Hanes

Pan ymosododd Harri II, brenin Lloegr ar Wynedd yn 1157, roedd Robert a'i hanner brawd Henry Fitz Roy (mab Nest gan y brenin Harri I, brenin Lloegr) ymysg arweinwyr y fyddin a yrrwyd i ymosod ar Ynys Môn tra'r oedd byddin y brenin yn wynebu byddin Owain Gwynedd i'r dwyrain o Afon Conwy. Gorchfygwyd yr ymosodiad, lladdwyd Henry a chlwyfwyd Robert yn ddifrifol.

Ym mis Tachwedd 1165, cymerwyd Robert yn garcharor gan Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys). Yn 1167, teithiodd Diarmuid Mac Murchadha, cyn-frenin Leinster yn Iwerddon, i Loegr i apelio am gymorth i adfeddiannu ei deyrnas, ac ymddengys iddo ofyn i Rhys ryddhau Robert i'w gynorthwyo yn Iwerddon. Ni ryddhaodd Rhys ef yn syth, ond wedi apêl bellach, gwnaeth hynny yn 1168.

Yn 1169, arweiniodd Robert y rhan gyntaf o fyddin o Normaniaid, o Gymru yn bennaf, i Iwerddon, a chipiodd Loch Garman (Wexford). Cymerwyd ef yn garcharor gan y Gwyddelod yn 1171. Yn ddiweddarach, rhyddhawyd ef, a rhoddodd y brenin Harri II Swydd Corc iddo fel arglwyddiaeth, ar y cyd a Miles Cogan.

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads